Edrych yn ôl dros yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2023

17 Jan 2024

Neges gan Elinor Bennett

Cyfarwyddwr Artistig
Tachwedd 2022

Cynhelir pumed Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Galeri Caernarfon o’r 5-11 o Ebrill 2023, a chawn gyfle euraid i ddod â phobl at ei gilydd i gael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth telyn o ddiwylliannau amrywiol ledled y byd. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at wrando ar berfformiadau mewn cyngherddau, datganiadau a chystadlaethau ac at rannu traddodiadau’r delyn ar draws y byd yng nghwmni telynorion o Gymru, gweldydd celtaildd eraill, Colombia a’r Gambia.

Gall cerddoriaeth oresgyn ffiniau daearyddol a gwrthdaro milwrol, a gall gryfhau clymau cyfeillgarwch rhwng pobl mewn gwledydd pell. Bydd croeso cynnes yn disgwyl ymwelwyr i Gaernarfon dros y Pasg nesaf, a gallwn sicrhau gwefr wrth wrando ar seiniau degau o delynau yn atseinio ar galeriau’r Galeri wedi tawelwch hunllefus a nerfusrwydd cyfnod y Cofid.

Gan mai hon fydd yr Ŵyl olaf i mi ei threfnu, rwyf wedi dewis cerddoriaeth sy’n adlewyrchu llwybr gerddorol fy mywyd ac sydd wedi rhoi llawer o bleser i mi, o’r canu traddodiadol o fro fy mebyd, i uchafbwyntiau repertoire y delyn yn rhyngwladol, a cherddoriaeth newydd.

Cystadlaethau

Pencerdd

Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl, Medi 1af 1987

Ieuenctid

Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl,  Medi 1af 2003

Iau

Agored i delynorion  a aned ar, neu ar ôl Medi 1af 2009.

Cerdd Byd

Unrhyw Oedran

Cyngherddau

Cyngerdd Agoriadol

5 Ebrill 2023, 7:30pm

Elinor Bennett & Meinir Heulyn (Telynau), Côr Telyn Gogledd Cymru (arweinydd Tudur Eames), Côr Godre’r Aran (arweinydd Eirian Owen).
Perfformiad cyntaf o “Llechi” gan Math Roberts & Ifor ap Glyn wedi ei berfformio gan gyn-ddisgyblion Canolfan Gerdd William Mathias.

Menna Elfyn (Bardd)
Elinor Bennett (Telyn)
Glesni Rhys Jones (Soprano)
Elain Rhys Jones (Telyn)

6 Ebrill 2023, 2:00pm

Rhaglen yn cynnwys “Emyn i Gymro – er côf am R S Thomas” gan Menna Elfyn a Pwyll ap Sion
Caneuon gwerin o Gymru . treniadau gan Grace Williams

JAZZ – Deborah Henson-Conant (UDA)

6 Ebrill 2023, 7:30pm

Cyngerdd – Isabelle Moretti (Ffrainc)

7 Ebrill 2023, 7:30pm

Clasuron y Delyn o Ffrainc

Cyngerdd – Catrin Finch (Cymru) & Edmar Castaneda (Colombia)

8 Ebrill 2023, 7:30pm

Cyngerdd – Sioned Williams

9 Ebrill 2023, 5:00pm

Datganiad telyn â darluniau
Stori fywiog, ddadlennol am ‘Pencerdd Gwalia’, John Thomas (1826–1913), ‘Telynor y Frenhines’: yn cynnwys gweithiau gan John Thomas, John Parry [Ddall], Mendelssohn, Rossini, Schubert ac eraill.

Cyngerdd Cerdd Byd

10 Ebrill 2023, 7:30pm

Pedair (Cymru)
Veronika Lemishenko (Wcrain)
The Griot Brothers

 

Cyngerdd y Pencerdd

11 Ebrill 2023, 7:30pm

Cylch terfynnol cystadleuaeth y prif gerddor, pan fydd tri telynor(es) ifanc yn perfformio gweithiau unawdol a deuawd Saint-Saëns i ffidil a thelyn.

Pob Digwyddiad

Gweld rhestr cyflawn o ddigwyddiadau’r Ŵyl.

Erthyglau Arall

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

Lansio ein Gŵyl Delynau “Rhithiol” cyntaf

Lansio ein Gŵyl Delynau “Rhithiol” cyntaf

Neges gan Elinor Bennett, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl: Cofio – talu teyrnged – a throsglwyddo’r awen fydd prif themâu Gŵyl Delynau Cymru  eleni. Tristwch mawr oedd clywed ym mis Ionawr am farwolaeth Osian Ellis, Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl hon,  un o’r...

Noddwyr yr Ŵyl yn 2023