Telynorion y Byd

Er mwyn dangos yr amrediad eang o  delynau, torrodd yr Ŵyl dir newydd trwy gynhyrchu cyfres o sgyrsiau arlein i gyrraedd  telynorion uchel iawn eu parch sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i’r delyn yn rhyngwladol ac i ddangos mathau gwahanol o delynau sydd yn cael eu canu mewn diwylliannau eraill. Mae datblygiadau technegol diweddar wedi ei gwneud yn bosibl cysylltu gyda phobl o bell  trwy zoom ac mae hyn yn fendith wrth rannu profiadau a syniadau gyda phobl sydd o’r un anian mewn gwledydd eraill . Cefais  y fraint a phleser mawr wrth gysylltu gyda thelynorion sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig fel perfformwyr, ysgolheigion ac athrawon telyn (ond sydd yn methu dod atom yn bersonol) a rhannu gwybodaeth am y delyn yn ei hamryfal ffurfiau – o  delynau cynnar yn Ewrop  i’r kora a thelynau  De America. Gan fod y  podlediadau hyn yn fenter newydd i’r Ŵyl Delynau, gobeithiwn y byddant yn ffynhonell  gwybodaerth i’r darllenwyr ac yn ysgogi diddordeb pellach mewn telynau a’u cerddoriaeth.  

Ann Hobson-Pilot

Cyhoeddwyd 20 Ebrill 2023

Ann Hobson-Pilot yw un o delynorion uchaf eu parch yn yr Unol Daleithiau a braint aruthrol oedd cael cyfarfod â hi dros zoom a chael cyfle i sgwrsio am ei bywyd a’i gwaith. Mae’n gerddor tu hwnt o ddawnus a bu’n canu’r delyn gyda rhai o gyfansoddwyr ac arweinyddion mwya’r byd. Hi yw hoff delynores y cyfansoddwr ffilm enwog, John Williams, ac o ddiddordeb i ni yng Nghymru oedd iddi recordio’r “Consierto i’r Delyn” gan William Mathias ar yr union amser y bu’r cyfansoddwr farw yn 1992. Cawsom drafod ei gwersi telyn cyntaf yn Philadelphia a’i gyrfa fel y ddynes gyntaf o dras Affro- Americanaidd i ganu’r delyn yn broffesiynnol yn un o brif gerddorfeydd yr UDA – Cerddorfa Symffoni Boston – a’r profiadau heriol a’i hwynebodd fel dynes ddu yn y 1960’au yn America. Bu’n aelod o Gerddorfa Symffoni Boston am 40 mlynedd ac ers iddi ymddeol yn 2009, bu’n brysur yn canu’r delyn fel unawdydd a cherddor siambr.

Ion Ivan Roncea

Cyhoeddwyd: 5 Ebrill 2023

Ion Ivan Roncea yw’r telynor uchaf ei barch yn Romania, a chafodd yrfa ddisglair iawn ar lwyfannau rhyngwladol. Cefais sgwrs gydag ef o’i gartref ym Mucharest am ei waith fel telynor ac athro. Astudiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Genedlaethol Romania ac yn ddiweddarach yn Efrog Newydd fel canlyniad i ennill y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol i’r delyn yn Israel yn 1976. Bu’n ymddangos fel unawdydd gyda cherddorfeydd mawr o Bucharest i Berlin, Salzburg, Copenhagen. Paris a Tokyo a rhoddodd gyngherddau unigol a dosbarthiadau meistr ledled y , byd.

Isobel Mieras

Cyhoeddwyd: 28 Mawrth 2023

Isobel Mieras yw Llywydd Cymdeithas y Clarsach yn yr Alban. Hi hefyd yw’r person allweddol yng Ngwyl Delynau Ryngwladol Caeredin a sefydlwyd yn 1980, a’r person sydd yn gwneud gwaith tebyg i mi yng Ngwyl Delynau Rhyngwladol Cymru. Pleser mawr oedd cael ymuno â hi mewn podledad arlein i egluro sut y cychwynnodd y ddwy Ŵyl a’r ffordd y datblygodd y naill a’r llall i fod yn wyliau rhyngwladol pwysig. Ers 1980, cynhaliwyd y Gwyliau o gwmpas y Pasg heb darfu ar ei gilydd. Ond eleni, roedd yn wahanol, a gwelwyd fod y ddwy Wyl yn cael eu cynnal ar union yr un dyddiau yn 2023. Roedd rhaid gwneud ein gorau i oresgyn ein problem!

Isobel gafodd y syniad o gynnal sgwrs arlein i wyntyllu’r posibiliadau a chytunais yn llawen gan awgrymu fod ein sgwrs yn dod yn rhan o gyfres o bodlediadau ar gyfer Gwyl Delynau Ryngwladol Cymru. Y bwriad yw codi proffeil a hysbysebu’r ddwy Wyl ac i ddenu mwy o gynulleidfaoedd a chyfranogwyr. Fel dwy “fatriarch” y gwyliau yn y Gwledydd Celtaidd, mae’n deg dweud fod gan Isobel a minnau barch mawr at waith ein gilydd. Bum yn perfformio sawl tro yng Ngwyl Delynau Caeredin ac ymwelodd Isobel â Gwyl Delynau Ryngwladol Cymru i berfformio a beirniadu. Buddiol iawn oedd cael rhannu’r heriau ac anhawsterau bychain – a’r hwyl – a’n hwynebodd am gyfnod hirach na 40 mlynedd o fod yn Gyfarwyddwyr Artistig.

Nathania Ko

Cyhoeddwyd 23 Mawrth 2023

Telynores ifanc o Vancouver, Canada yw Nathania Ko. Cafodd hyfforddiant fel  telynores  glasurol  cyn arbenigo ar y delyn Tseiniaidd – y Konghou.  Roeddwn eisiau gwybod mwy am yr offeryn diddorol yma sydd wedi esblygu o’r hen delyn hynafol Tseiniaidd. Astudiodd Nathania ym Mhrifysgol British Columbia ac yn Shenyang, China,  lle bu’n astudio’r Konghou. Enillodd wobrau yng Nghystadleuaeth Telyn yng Ngwyl Delynau’r Iseldiroedd ac roedd  yn weithgar yng nghynadleddoedd Cyngres Delynau’r Byd pan ymwelodd â  Hong Kong. Ymddanghosodd  Nathania mewn  sawl cyngerdd o  Gerddoriaeth Byd ac mewn gwyliau fel Gwyl Gerdd y Silk Road yn Xi’an, gwyl Yo-yo Ma yn Guangzhou a gwyl byrfyfyrio yn Beijing. Mae Nathania’n perfformio’n aml yn Vancouver ac yn Tseina, a’i chyfansoddiadau hi yw’r danau prawf ar gyfer y Konghou mewn arholiadau  cerdd yn Tseina. Mae  ganddi ddisgyblion ar y  Konghou ym Mhrydain, UDA, Tseina, Canada, Singapore, Iwerddon a Ffrainc.

Andrew Lawrence-King

Cyhoeddwyd: 15 Mawrth 2023

Andrew Lawrence-King yw brenin cerddoriaeth cynnar a’r arbenigwyr pennaf yn rhyngwladol ar ganu telynau hanesyddol o gyfnodau’r Dadeni a’r Baroc. Buom yn trafod sut y cychwynnodd Andrew i ganu’r delyn a pham y penderfynodd ail-greu opera gan Monteverdi a oedd wedi mynd ar goll (Ariadne), a’i benderfyniad i ymgartrefu yn Tallinn, Estonia. Mae gen i barch aruthrol at ei waith a braint enfawr oedd cael sgwrsio gyda thelynor a ychwanegodd gymaint at ein gwybodaeth o hanes cerddoriaeth a’r delyn.