Digwyddiadau
Dydd Mawrth, 15 Ebrill 2025
Billy ‘Harp Doctor’: Gwasanaethu Telynau
15 Ebrill 2025
Bydd Billy Hornby (The Harp Doctor) ar gael yn ystod yr Ŵyl i wasanaethu telynau. Dylech gysylltu yn uniongyrchol efo Billy i drefnu diwrnod ac amser. (07771 797877 / harpdoctor@btinternet.com)
(Mae’n angenrheidiol i archebu o flaen llaw)
Gwasanaethu Telynau: Steffan Jones
15 Ebrill 2025
Bydd Telynau Steffan Jones yma yn ystod yr Ŵyl Delynau i drin telynau.
Cysylltwch gyda Steffan i archebu neu am ragor o wybodaeth: steffanjonesharps@gmail.com / 07791 745 842
Arddangosfa: Salvi Harp UK
15 Ebrill 2025, Prynhawn
Bydd Salvi Music London yn arddangos telynau lifer a thelynau pedal Salvi, tannau, cerddoriaeth a nwyddau eraill. Os hoffai unrhyw un archebu ymlaen llaw, anfonwch e-bost allison@salvimusic.com. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld!
Camau Cerdd ar y Delyn
15 Ebrill 2025, 1:00 – 1:40pm, Stiwdio 2 Galeri Caernarfon
I blant 2-5mlwydd oed gyda oedolyn.
£5 y plentyn (Disgownt o 20% i frodyr a chwiorydd)
Teimlo’r Tannau
15 Ebrill 2025, 2:00 – 2:45pm, Stiwdio 2 Galeri Caernarfon
I blant oed ysgol 6+ sydd â diddordeb yn y delyn ond heb dderbyn gwersi telyn hyd yma. Gyda Angharad Wyn Jones & Catrin Morris Jones.
Am ddim, ond rhaid cofrestru o flaen llaw.
Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Nansi Richards
15 Ebrill 2025, 3:30pm, Stiwdio 2
Dim tâl mynediad (Casgliad i Ymddiriedoliaeth Nansi Richards ar y diwedd)
Dydd Mercher, 16 Ebrill 2025
Billy ‘Harp Doctor’ Gwasanaethu Telynau
16 Ebrill 2025
Bydd Billy Hornby (The Harp Doctor) ar gael yn ystod yr Ŵyl i wasanaethu telynau. Dylech gysylltu yn uniongyrchol efo Billy i drefnu diwrnod ac amser. (07771 797877 / harpdoctor@btinternet.com)
(Mae’n angenrheidiol i archebu o flaen llaw)
Gwasanaethu Telynau: Steffan Jones
16 Ebrill 2025
Bydd Telynau Steffan Jones yma yn ystod yr Ŵyl Delynau i drin telynau.
Cysylltwch gyda Steffan i archebu neu am ragor o wybodaeth: steffanjonesharps@gmail.com / 07791 745 842
Arddangosfa: Salvi Harp UK
16 Ebrill 2025, O 9:30am ymlaen
Cwrs yr Ŵyl
16 Ebrill 2025
Mae croeso i delynorion o bob oed a chyrhaeddiad i gofrestru ar gyfer cwrs un-dydd yr Ŵyl fydd yn gyfle gwych i dderbyn hyfforddiant unigol a grwp gan diwtoriaid profiadol a chymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau amrywiol.
Cyngerdd yr Ŵyl
16 Ebrill 2025, 7:30pm, Theatr Galeri
Tocynnau: £16, £14 (Myfyrwyr / pobl hŷn / anabl), £6 disgyblion ysgol.
Dathlu cerddoriaeth o Gymru, Ffrainc ac ymhellach!
Glain Dafydd
Gwenan Gibbard
TRIO HAYDÉE: Marielou Jacquard (mezzo-soprano), Anastasie Lefebvre de Rieux (ffliwt) Constance Luzzati (telyn)