Cyngerdd: Isabelle Moretti (Ffrainc)

7 Ebrill 2023, 7:30pm
Theatr Galeri

Clasuron y Delyn Gyngerdd – yn cynwys cerddoriaeth gan Debussy, Tournier a J. S. Bach.

Mae Isabelle Moretti yn ffigwr arwyddocaol ac allweddol ym myd y delyn ac yn derbyn clodydd rhyngwladol am ei charisma ar lwyfan, a’i chwarae pwerus a choeth. Mae’n athrawes o fri, ac yn rhoi dosbarthiadau meistr ledled y byd, a hi yw’r Athro Telyn yn y Conservatoire National Supérieur de la Musique et de la Danse de Paris (CNSMDP). Mae hefyd yn Athro Ymweliadol yn Academi Gerdd Frenhinol Llundain. Fel unawdydd ac athrawes, mae’n credu’n angerddol yng ngrym a gwychder cerddoriaeth i gyfathrebu. Anrhydeddwyd Isabelle Moretti yn Swyddog Deddf Teilyngdod Cenedlaethol a Swyddog Celfyddydau a Llythyrau gyda chlod mawr.

Tocynnau

£16, £14, £5 (dan 18)

Swyddfa Docynnau Galeri:
01286 685 222