Cwrs yr Ŵyl

27 Mawrth 2024

Mae croeso i delynorion o bob oed a chyrhaeddiad i gofrestru ar gyfer cwrs un-dydd yr Ŵyl fydd yn gyfle gwych i dderbyn hyfforddiant unigol a grwp gan diwtoriaid profiadol a chymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau amrywiol.

Amserlen y Cwrs

8.45am – 9.15am: Cyrraedd a Chofrestru
9.30am – 12.30pm: Dosbarthiadau (gyda egwyl)
12.30pm – 1.15pm: Cinio
1.15pm – 2.15pm: Gweithdy / Dosbarthiadau
2.30pm – 3.30pm: Gweithdy / Dosbarthiadau
4:00pm: Ymarfer ar y galerïau
5:00-5:30pm: Telynorion Lu ar galerïau Galeri
7:30pm: Cyngerdd yr Ŵyl

Gall yr amserlen newid ychydig.
Bydd angen i rieni / gofalwyr fod yn gyfrifol am eu plant o 5pm ymlaen.

Tiwtoriaid y Cwrs

Alis Huws

Tiwtor Cwrs

Yn gweithio’n bennaf fel unawdydd ac yn gerddor siambr, Alis Huws yw’r Delynores Frenhinol Swyddogol. Mae hi wedi rhoi cyngherddau unawdol ar hyd a lled y DU, ac mae hi wedi perfformio ar draws Ewrop a’r Dwyrain Pell.

Mae Alis yn perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: agor y swyddfeydd newydd yn Llysgenhadaeth Prydain ym Merlin, y dathliadau Gŵyl Dewi yn Downing Street a Lancaster House, ac agoriadau Brenhinol Swyddogol y Senedd yn  2016 a 2021. Y 2019, perfformiodd ym Mhalas Buckingham i nodi hanner canmlwyddiant Arwisgiad EUB Tywysog Cymru.

Yn 2017, cymerodd ran yng Nghyngres Telynau’r Byd yn Hong Kong, ac ymunodd â Katherine Jenkins ac Only Men Aloud mewn perfformiad yn dathlu Rownd Derfynol Cwpan Pêl Droed UEFA yng Nghaerdydd. Yn ogystal, perfformiodd Alis yn ffair ryngwladol Hankyu yn Osaka yn 2016, gan gynrychioli Cymru.

Catrin Morris Jones

Tiwtor Cwrs

Astudiodd Catrin yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall ac yna’r Academy Gerdd Frenhinol, Llundain ble enillodd Wobr Renata Scheffel-Stein i’r Delyn. Mae bellach yn Gydymaith (Associate) yr Academi. Yn wreiddiol o Fangor, ac ar ôl pum mlynedd ar hugain o fyw a gweithio yn Llundain, mae Catrin bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli.

Mae dysgu’r delyn i blant ac oedolion wedi bod yn ran bwysig o yrfa Catrin ac mae hi wedi dysgu mewn llawer o ysgolion dros y blynyddoedd gan gynnwys Ysgol Gymraeg Llundain ble roedd ei phlant yn mynychu. Mae bellach yn diwtor yng Nghanolfa Gerdd William Mathias ac i Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Bu’n chwarae mewn amryw o sioeau cerdd yn y ’West End’ yn Llundain, gan gynnwys: Oliver!, Phantom of the Opera, The King and I, Notré Dame de Paris, The Producers, My Fair Lady, Napoleon, The Secret Garden a South Pacific (National Theatr). Mae hefyd wedi perfformio gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw gan gynnwys: y BBC Philharmonic Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Philharmonia, Royal Philharmonic a’r Royal Philharmonic Concert Orchestras, cerddorfa’r Hallé, Royal Scottish National Orchestra, Ensemble 10/10, Trondheim Symphony Orchestra, Schleswig-Holstein Festival Orchestra, Royal Opera House Orchestra, Glyndebourne Touring Orchestra, English Touring Opera, Garsington Opera Orchestra, Opera São Carlos, Lisbon, Portugal, London City Ballet, Moscow City Ballet a Northern Ballet Company.

Tudur Eames

Tiwtor Cwrs

Yn wreiddiol o Bwllheli, cychwynodd Tudur dderbyn gwersi telyn yn yr Ysgol Uwchradd gyda Gwennant Pyrs ac yna Elinor Bennett. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain, ac yn cael gwrsi telyn yno gyda David Watkins.

Dilynodd Tudur yrfa llawrydd fel cerddor am sawl blwyddyn cyn troi i fyd addysg. Bu’n bennaeth Cerdd yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru yn 2014 i weithio yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Erbyn hyn, mae’n Gyfarwyddwr Creadigol gyda’r Gwasanaeth Cerdd Ysgolion lleol yng Ngwynedd a Môn.

Yn ogystal a canu’r delyn, mae Tudur yn bianydd a chyfeilydd, yn arweinydd corawl, yn hyfforddwr lleisiol, yn gyfarwyddwr cerdd, ac yn feirniad prysur. Mae’n edrych ymlaen yn arw i fod yn rhan o’r Ŵyl Delynau eleni.

Mared Emlyn

Tiwtor Cwrs

Cwblhaodd Mared ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor gydag ysgoloriaeth wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau a gŵyliau telyn. Mae Mared yn perfformio mewn cyngherddau fel unawdydd, mewn ensemblau ac fel aelod o gerddorfeydd. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares a berfformiwyd gan y Gerddorfa Siambr Gymreig a Mared ei hun fel yr unawdydd. Yn 2018, cydweithiodd â’r cerddor Gwenan Gibbard a’r bardd Mererid Hopwood ar gomisiwn gan Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru fel rhan o ddathliadau penblwydd y telynor adnabyddus Osian Ellis yn 90 oed. Yn ddiweddar, cafodd Mared ei chomisiynu gan Opra Cymru i gyfansoddi opera ar gyfer plant a theuluoedd: Cyfrinach y Brenin, aeth ar daith ym mis Medi 2022.

Amanda Whiting

Bydd Amanda yn cynnal gweithdy jazz yn ystod cwrs yr Ŵyl.

Mae’r delynores Gymreig Amanda Whiting wedi sefydlu ei hun yn gyflym iawn fel rhan hanfodol o fyd jazz y DU. 

Gyda’i hyfforddiant clasurol, mae hi wedi canfod sain unigryw ei hun gan ddilyn y llwybrau a luniwyd gan Ashby a Coltrane.

Gan deithio’n helaeth gyda’i band ei hun yn ogystal ag yn flaenorol â Matthew Halsall, Chip Wickham, DJ Yoda a Rebecca Vasmant, mae hi’n cyflwyno harddwch a dyfnder aruthrol o’r llwyfan yn ddiddiwedd. Ei set Jazz Cheltenham 2023 oedd “uchafbwynt yr ŵyl”  i Cerys Matthews. Ychwanegwch at hynny dri albwm hynod lwyddiannus (“argymhellir yn fawr” gan Jamie Cullum, BBC Radio 2) ar gyfer y label recordiau chwedlonol Jazzman ac enwebiad ar gyfer Offerynnwr y Flwyddyn yng ngwobrau Jazz FM a chewch lun o dalent hynod bwysig.

Ym mis Tachwedd 2023, rhyddhaodd Amanda ddau albwm; albwm remix o Lost in Abstraction allan ar Albert’s Favourites a chydweithrediad â Don Leisure ar ei label newydd First Word Records. Bydd ei halbwm unigol newydd “The Liminality of Her” allan ym mis Mawrth 2024.

Ar hyn o bryd mae Amanda yn dysgu telyn Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd a Royal Birmingham Conservatoire. Fel cyfansoddwraig mae ganddi 23 o ddarnau ar faes llafur Arholiad Coleg Cerdd y Drindod, yn ogystal â chael Stiwdio Column.

Cofrestru

Pris:
£36 i rai o dan 18
£45 i oedolion
(Mae hyn yn cynwys tocyn i’r gyngerdd).

Dyddiad cau i gofrestru: 10 Mawrth 2024