JAZZ: Deborah Henson-Conant

(UDA)

 

6 Ebrill 2023, 7:30pm
Theatr Galeri

Gelwir Deborah Henson-Conant yn “Delynores hip-hop” ac mae ymhlith y mwyaf lliwgar a phoblogaidd o delynorion y delyn drydan.

Mae’n dychwelyd i Gaernarfon unwaith eto ar ol ymddangos yn y Gwyliau Telyn Rhyngwladol yn 2006 a 2010 pan swynodd gynulleiddfaoedd gyda’i dull o gerddoriaeth a ddisgrifia fel ” croes
rhwng jazz- pop – comedi – blues – flamenco – celtaidd.” Bydd fel arfer yn perfformio ar ei phen ei hun ac mae’n hoff o adrodd straeon a chynnwys elfennau theatrical.

Tocynnau

£16, £14, £5 (dan 18)

Swyddfa Docynnau Galeri:
01286 685 222