Cyngerdd Cerddoriaeth Byd

Pedair (Cymru)
Veronika Lemishenko (Wcrain)
The Griot Brothers (Senegal a Gambia)

10 Ebrill 2023, 7:30pm
Theatr Galeri

Pedair

Pedair

Gwenan Gibbard, Sian James, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym

Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. A’r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio’n fyw. Gyda’i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs, piano ac acordion. Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda’u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o’r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi. Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol (yn cynnwys Pedair eu hunain!) A’u halbym cyntaf wedi ei ryddhau gan Sain yn 2022, tydi asiad creadigol Pedair ond megis cychwyn cyrraedd ei lawn botensial.

Veronika Lemishenko

Veronika Lemishenko

Veronika Lemishenko yw Cyfarwyddwraig cystadleuaeth a Gŵyl ‘Glowing Harp’ yn Kharkiv, (Wcráin), a chyd-sylfaenydd y ‘Veronika Lemishenko Charity Foundation’ . Mae’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Cyngres Telynau’r Byd, Enillodd wobrau yn yr Wyl hon yn 2014 a 2018 ac mewn cystadlaethau telyn rhyngwladol eraill– yn Ffrainc, Sbaen, Wcráin, y Weriniaeth Tsiec, Bwlgaria, Rwsia, Groeg a Singapôr . Bu’n perfformio mewn gŵyliau cerddorol rhyngwladol: La Folle Journee, Gŵyl Camac (Ffrainc), Harp Masters Festspiele (Y Swistir) a Seminar Telyn Lisboa (Portiwgal).

Yn y cyngerdd hwn bydd Veronika yn perfformio cerddoriaeth yn seiliedig ar gerddoriaeth draddodiadol Wcrain.

The Griot Brothers

The Griot Brothers

Suntou Susso, Modou Ndiaye & Sura Susso

Tri brawd Griot o ddiwylliant Senegal a Gambia yw Suntou Susso, Modou Ndiaye and Sura Susso. Mae’r tri yn chwareuwyr kora eithriadol, yn chwarae sawl offeryn arall, yn gantorion ac yn gyfansoddwyr.

Mae’r kora (telyn liwtaidd gyda 22 o dannau) yn unigryw i’r traddodiad hynafol (dros 700 canrif)   sy’n perthyn i bobl y Mandinka o Orllewin Affrica. Daw Suntou Susso, Modou Ndiaye a Sura Susso o’r diwylliant hwn ac maent yn falch o’u rôl yn hybu diwylliant eu pobl trwy adrodd hanesion a chwedlau ar lafar, ac mewn caneuon, cerddoriaeth a barddoniaeth.

Roedd eu cartref yn nyddiau eu hieuenctid, yn llawn o fiwsig.  Gyda’r traddodiadau cerddorol gyfoethog hyn yn eu meddiant, maent yn eu plethu’n gelfydd i greu cyfansoddiadau modern cyffrous.

Tocynnau

£16, £14, £5 (dan 18)

Swyddfa Docynnau Galeri:
01286 685 222