Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru V
5 – 11 Ebrill 2023


Neges gan Elinor Bennett
Cyfarwyddwr Artistig
Tachwedd 2022
Cynhelir pumed Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Galeri Caernarfon o’r 5-11 o Ebrill 2023, a chawn gyfle euraid i ddod â phobl at ei gilydd i gael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth telyn o ddiwylliannau amrywiol ledled y byd. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at wrando ar berfformiadau mewn cyngherddau, datganiadau a chystadlaethau ac at rannu traddodiadau’r delyn ar draws y byd yng nghwmni telynorion o Gymru, gweldydd celtaildd eraill, Colombia a’r Gambia.
Gall cerddoriaeth oresgyn ffiniau daearyddol a gwrthdaro milwrol, a gall gryfhau clymau cyfeillgarwch rhwng pobl mewn gwledydd pell. Bydd croeso cynnes yn disgwyl ymwelwyr i Gaernarfon dros y Pasg nesaf, a gallwn sicrhau gwefr wrth wrando ar seiniau degau o delynau yn atseinio ar galeriau’r Galeri wedi tawelwch hunllefus a nerfusrwydd cyfnod y Cofid.
Gan mai hon fydd yr Ŵyl olaf i mi ei threfnu, rwyf wedi dewis cerddoriaeth sy’n adlewyrchu llwybr gerddorol fy mywyd ac sydd wedi rhoi llawer o bleser i mi, o’r canu traddodiadol o fro fy mebyd, i uchafbwyntiau repertoire y delyn yn rhyngwladol, a cherddoriaeth newydd.
Cystadlaethau

Pencerdd
Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl, Medi 1af 1987

Ieuenctid
Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl, Medi 1af 2003

Iau
Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl Medi 1af 2009.

Cerdd Byd
Unrhyw Oedran
Cyngherddau

Cyngerdd Agoriadol
5 Ebrill 2023, 7:30pm
Elinor Bennett & Meinir Heulyn (Telynau), Côr Telyn Gogledd Cymru (arweinydd Tudur Eames), Côr Godre’r Aran (arweinydd Eirian Owen).
Perfformiad cyntaf o “Llechi” gan Math Roberts & Ifor ap Glyn wedi ei berfformio gan gyn-ddisgyblion Canolfan Gerdd William Mathias.

Menna Elfyn (Bardd)
Elinor Bennett (Telyn)
Glesni Rhys Jones (Soprano)
Elain Rhys Jones (Telyn)
6 Ebrill 2023, 2:00pm
Rhaglen yn cynnwys “Emyn i Gymro – er côf am R S Thomas” gan Menna Elfyn a Pwyll ap Sion
Caneuon gwerin o Gymru . treniadau gan Grace Williams

JAZZ – Deborah Henson-Conant (UDA)
6 Ebrill 2023, 7:30pm

Cyngerdd – Isabelle Moretti (Ffrainc)
7 Ebrill 2023, 7:30pm

Cyngerdd – Catrin Finch (Cymru) & Edmar Castaneda (Colombia)
8 Ebrill 2023, 7:30pm

Cyngerdd – Sioned Williams
9 Ebrill 2023, 5:00pm
Datganiad telyn â darluniau
Stori fywiog, ddadlennol am ‘Pencerdd Gwalia’, John Thomas (1826–1913), ‘Telynor y Frenhines’: yn cynnwys gweithiau gan John Thomas, John Parry [Ddall], Mendelssohn, Rossini, Schubert ac eraill.

Cyngerdd Cerdd Byd
10 Ebrill 2023, 7:30pm
Pedair (Cymru)
Veronika Lemishenko (Wcrain)
The Griot Brothers

Cyngerdd y Pencerdd
11 Ebrill 2023, 7:30pm
Cylch terfynnol cystadleuaeth y prif gerddor, pan fydd tri telynor(es) ifanc yn perfformio gweithiau unawdol a deuawd Saint-Saëns i ffidil a thelyn.
Pob Digwyddiad
Gweld rhestr cyflawn o ddigwyddiadau’r Ŵyl.
Telynorion y Byd
Er mwyn dangos yr amrediad eang o delynau, torrodd yr Ŵyl dir newydd trwy gynhyrchu cyfres o sgyrsiau arlein i gyrraedd telynorion uchel iawn eu parch sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i’r delyn yn rhyngwladol ac i ddangos mathau gwahanol o delynau sydd yn cael eu canu mewn diwylliannau eraill. Mae datblygiadau technegol diweddar wedi ei gwneud yn bosibl cysylltu gyda phobl o bell trwy zoom ac mae hyn yn fendith wrth rannu profiadau a syniadau gyda phobl sydd o’r un anian mewn gwledydd eraill . Cefais y fraint a phleser mawr wrth gysylltu gyda thelynorion sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig fel perfformwyr, ysgolheigion ac athrawon telyn (ond sydd yn methu dod atom yn bersonol) a rhannu gwybodaeth am y delyn yn ei hamryfal ffurfiau – o delynau cynnar yn Ewrop i’r kora a thelynau De America. Gan fod y podlediadau hyn yn fenter newydd i’r Ŵyl Delynau, gobeithiwn y byddant yn ffynhonell gwybodaerth i’r darllenwyr ac yn ysgogi diddordeb pellach mewn telynau a’u cerddoriaeth.
Ysgoloriaeth Noddi Tant
A hoffech chi helpu’r Ŵyl trwy gyfrannu swm o arian o’ch dewis eich hun tuag at dair Ysgoloriaeth?