Cyngerdd – Catrin Finch (Cymru) & Edmar Castaneda (Colombia)

8 Ebrill 2023, 7:30pm
Theatr Galeri

Daw’r cyngerdd hwn â dau gyfandir at ei gilydd wrth wrando ar delynau Llanera o America Ladin gyda cherddoriaeth telyn o Gymru ac Ewrop.

‘Does dim angen cyflwyno Catrin Finch i gynulleidfaoedd yng Nghaernarfon a bu’n creu partneriaethau cerddorol gwych gyda cherddorion ar lawer math o delynau o ddiwylliannau tra-gwahanol i’w gilydd.  Hwn fydd y tro cyntaf iddi rannu llwyfan gydag Edmar Castaneda y telynor eithriadol o Colombia a ddisgrifiwyd gan y New York Times fel ” bron yn fyd ynddo’i hun.” Bydd yn achlysur tanbaid – peidiwch â’i golli!!

Tocynnau

£16, £14, £5 (dan 18)

Swyddfa Docynnau Galeri:
01286 685 222