Cyngerdd: Sioned Williams (Telyn)

9 Ebrill 2023, 5:00pm
Theatr Galeri Caernarfon

Datganiad telyn â darluniau

Stori fywiog, ddadlennol am ‘Pencerdd Gwalia’, John Thomas (1826–1913), ‘Telynor y Frenhines’: yn cynnwys gweithiau gan John Thomas, John Parry [Ddall], Mendelssohn, Rossini, Schubert ac eraill. 

Am 27 mlynedd o 1990–2017, bu Sioned – sy’n dod yn wreiddiol o sir y Fflint – yn Brif Delynores Cerddorfa Symffoni’r BBC yn Llundain, ac mae hi’n parhau gyda’i gyrfa brysur yn rhoi datganiadau ac yn darlledu, recordio, ymchwilio ac addysgu. Braf iawn yw ei chroesawu unwaith eto i Ŵyl Delynau Ryngwaldol Cymru.

Tocynnau

£16, £14, £5 (dan 18)

Swyddfa Docynnau Galeri:
01286 685 222