Cyngerdd Agoriadol

5 April 2023, 7:30pm
Theatr Galeri

Elinor Bennett & Meinir Heulyn (Telynau)
Côr Telyn Gogledd Cymru (Arweinydd: Tudur Eames)
Côr Godre’r Aran (Arweinydd: Eirian Owen)

Perfformiad cyntaf o “Llechi”  gan Math Roberts & Ifor ap Glyn
gan gyn-ddisgyblion Canolfan Gerdd William Mathias

Tyfodd Elinor Bennett i fyny yn seiniau Côr Godre’r Aran a diwylliant cyfoethog Llanuwchllyn – roedd ei thad yn un o aelodau gwreiddiol y Côr. Bydd Meinir Heulyn yn ymuno efo Elinor mewn perfformiad o’r ddeuawd telyn o waith Pencerdd Gwalia “Scenes of Childhood / Golygfeydd Mebyd”. Ar y cyd efo Gillian Green, fe sefydlodd Elinor a Meinir “Coleg Telyn Cymru” oedd yn cynnal llawer o gyrsiau telyn a Gwyliau i delynorion ifanc yng Nghymru. Ymhlith cyn-ddisgyblion Elinor ceir amryw o aelodau Côr Telyn Gogledd Cymru yngŷd â’u cyfarwyddwr cerdd, Tudur Eames sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Mae’r gwaith newydd gan Math Roberts ac Ifor ap Glyn “Llechi” yn cael ei berfformio am y tro cyntaf gan unawdwyr lleisiol ac offerynnwyr sydd yn gyn-ddisgyblion o Ganolfan Gerdd William Mathias, i ddathlu’r ffaith fod chwareli yng Ngwynedd wedi derbyn statws Etifeddiaeth Byd gan UNESCO.

Tocynnau

£16, £14, £5 (dan 18)

Swyddfa Docynnau Galeri:
01286 685 222