Rydym yn falch iawn o benodiad diweddar y Delynores Catrin Morris Jones fel Trefnydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2018. Bydd Catrin yn gweithio yn agos ag Elinor Bennett dros y misoedd nesaf ar yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal rhwng 1af – 7fed Ebrill 2018.
Gyda dros ugain mlynedd o brofiad fel telynores broffesiynol yn Llundain, bellach mae Catrin yn byw gyda’i theulu ym Mhwllheli ac yn athrawes delyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2015.
Dywedodd Catrin: “Rwy’n falch iawn o gyd-weithio gydag Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl, ac yn edrych ymlaen i weithio â staff Canolfan Gerdd William Mathias a gwirfoddolwyr lleol i greu Gŵyl gyffrous a llwyddiannus.”
Trefnir yr Ŵyl gan CGWM a bydd yn wledd o gyngherddau, cystadlaethau a dosbarthiadau meistr i ddathlu penblwydd y telynor byd enwog, Osian Ellis yn 90 oed.
Meddai Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl:
“Rwyf yn hapus iawn fod Catrin wedi ymuno â’r tîm sydd yn trefnu Gwyl Delynau Ryngwladol Cymru IV ym mis Ebrill nesaf. Mae ganddi brofiad helaeth o drefnu digwyddiadau ym maes y delyn ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael ei chymorth a’i hegni i sicrhau fod yr Ŵyl Delynau yn mynd o nerth i nerth ac yn denu cannoedd o delynorion o lawer gwlad i Gaernarfon ym mis Ebrill.”