Tocynnau Ar Gyfer Cyngerdd Cyntaf Syr Bryn Terfel yn Pontio Bangor i Fynd Ar Werth Dydd Mawrth Nesaf 10fed Hydref am 10am

6 Oct 2017

Bydd tocynnau ar gyfer perfformiad cyntaf hir-ddisgwyliedig Syr Bryn Terfel yn Theatr Bryn Terfel, Pontio yn mynd ar werth o 10yb ar Ddydd Mawrth 10/10/2017 ar-lein, dros y ffôn ac o Swyddfa Docynnau Pontio.

Bydd y bas-bariton byd-enwog yn perfformio gyda’r delynores Hannah Stone a chyn-fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias, gyrhaeddodd rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel yr Urdd, i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV (Ebrill 1-7 2018) ar yr union ddiwrnod y bydd Llywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis CBE, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar nos Iau, Chwefror 8fed 2018, am 7.30pm.

Bydd Syr Bryn Terfel a’r delynores Hannah Stone yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf o Gylch o Ganeuon Gwerin gan Osian Ellis.  Yn perfformio hefyd bydd Glain Dafydd (Telyn) Gwyn Owen (Trwmped), Gwen Elin, (Soprano) a Jâms Coleman (Piano).

Hannah Stone - Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, Cyngerdd yn Pontio Bangor

Meddai Elinor Bennett, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, “Mae’n anodd dychmygu ffordd mwy cyffrous o lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru na chael gwrando ar gyngerdd gan Syr Bryn Terfel, Hannah Stone a phedwar artist ifanc o Gymru – yn Theatr Bryn Terfel ei hun!

“Mae hud a lledrith yn perthyn i’r achlysur gan fod y cyngerdd ar yr union ddiwrnod y bydd Osian Ellis y telynor eiconig, yn 90 oed!  Hudolus fydd cael y perfformiad cyntaf o’r “Cylch o Ganeuon Gwerin” a ysgrifennodd Osian Ellis ar gyfer Bryn a Hannah.

“Gobeithiaf y bydd y cyngerdd yn creu cynulleidfaoedd newydd i’r delyn, ac yn denu llawer i fynychu’r Ŵyl ei hun yn Galeri Caernarfon ar Ebrill 1–7, 2018.”

Ychwanegodd Syr Bryn Terfel, “Am gyffrous. Dwi’n falch iawn ein bod ni wedi dod o hyd i ddyddiad ar gyfer y cyngerdd arbennig yma yn Pontio. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i berfformio yn y theatr am y tro cyntaf, mewn cyngerdd i ddathlu’r telynor Osian Ellis, un o gerddorion mwyaf eiconig Cymru.”

Meddai Mario Kreft MBE perchennog Pendine Park, noddwyr y digwyddiad, “Rydym yn falch iawn o noddi’r gyngerdd arbennig hon, yn enwedig gan fod cerddoriaeth a’r celfyddydau yn gyffredinol yn rhan bwysig o’n rhaglen cyfoethogi i gyfrannu at fywydau tros y cenhedlaethau i’n preswylwyr a staff yn Bryn Seiont Newydd Caernarfon a’n cartrefi gofal yn Wrecsam.

“Rwy’n siŵr y bydd hi’n noson i’w chofio, ac yn un fydd yn darparu’r platfform perffaith ar gyfer lansio’r Ŵyl Delynau Rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda threfnwyr yr ŵyl.

“Rydym yn cyfri’n hunain yn lwcus iawn i gael y cyfle i wrando ar seren byd-enwog ym mro ei febyd ac mewn theatr fydd yn cyfrannu at greu gwaddol ar gyfer ei dalent eithriadol.”

Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, “Mae’n wych cael y cyfle i gydweithio gyda’r Ŵyl Delynau Rhyngwladol i lwyfannu’r cyngerdd yma fydd yn gweld Syr Bryn Terfel yn perfformio gyda ni yma yn Pontio am y tro cyntaf erioed – mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad hanesyddol.”

Bydd tocynnau yn £40 yr un ac ar werth o 10am ar 10/10/2017 o Swyddfa Docynnau Pontio ac ar-lein o www.pontio.co.uk. Bydd uchafswm o 4 tocyn ar gael i’w prynu gan bob unigolyn.

Erthyglau Arall

Edrych yn ôl dros yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2023

Edrych yn ôl dros yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2023

Neges gan Elinor Bennett Cyfarwyddwr ArtistigTachwedd 2022Cynhelir pumed Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Galeri Caernarfon o’r 5-11 o Ebrill 2023, a chawn gyfle euraid i ddod â phobl at ei gilydd i gael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth telyn o ddiwylliannau amrywiol...

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

Noddwyr yr Ŵyl yn 2023