Bydd bywyd a gwaith telynor byd-enwog a ddechreuodd ganu’r delyn unwaith eto wrth agosáu at ei ben-blwydd yn 90 oed yn cael eu dathlu mewn gŵyl ryngwladol.
Bydd pedwaredd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yng Nghaernarfon yn anrhydeddu’r chwedlonol Dr Osian Ellis CBE – gŵr a gydweithiodd gyda’r cyfansoddwr Prydeinig blaenllaw, Benjamin Britten, ac a chwaraeodd ar y gyfres gomedi radio wirion, The Goon Show.
Mae Dr Ellis, sy’n dod yn wreiddiol o Ffynnongroyw yn Sir y Fflint, ond sydd bellach yn byw ym Mhwllheli, yn dal i dderbyn siec breindal blynyddol o £100, drigain mlynedd yn ddiweddarach am ei ymddangosiadau gydag arloeswyr y byd comedi, Spike Milligan, Peter Sellers a Harry Secombe.
Yn ogystal â bod yn Athro’r Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol, bu Dr Ellis yn Brif Delynor gyda Cherddorfa Symffoni Llundain am nifer fawr o flynyddoedd ac ysgrifennodd Benjamin Britten ei Harp Suite yn benodol ar ei gyfer, cymaint oedd ei barch iddo.
Yn ystod ei yrfa ddisglair, chwaraeodd yn lleoliadau cyngerdd gorau’r byd, gan gymysgu gyda sêr ffilmiau fel yr actor Hugh Griffith, yr enillydd Oscar o Ynys Môn, Richard Burton ac Elizabeth Taylor yn ogystal â’r arwr comedi, Bob Hope.
Yn ôl cyfarwyddwraig yr ŵyl, Elinor Bennett, sydd ei hun yn delynores o fri ac yn athrawes telyn nodedig, mae Dr Ellis yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth enfawr iddi hi a’i chyd-gerddorion ledled y byd.
Bydd dros 100 o delynorion o wledydd cyn belled â Siapan, America, Rwsia a Gwlad Thai’n dod i’r ŵyl yn y Galeri yng Nghaernarfon o Ddydd Sul y Pasg ar 1 Ebrill, i ddydd Sadwrn, 7 Ebrill.
Bydd y gyngerdd agoriadol yn gweld cerdd newydd, sef OSIAN, yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf gan y Prifardd Mererid Hopwood. Mae’n ysbrydoliaeth i waith newydd dychmygus ar gyfer soprano, tenor, pedwarawd telyn, offerynnau taro a llinynnau gan y cyfansoddwr a’r delynores ifanc o Gymru, Mared Emlyn, sy’n cydweithio gyda’r gantores a’r delynores, Gwenan Gibbard, i gyflwyno cerddoriaeth er clod i Dr Ellis.
Roedd yn ddiolchgar ond “yn arswydo” o gael ei anrhydeddu am wneud rhywbeth y mae’n ei garu.
Datgelodd: “Mae’r digwyddiad yn tyfu ac mae hynny i’w briodoli i bobl fel Elinor Bennett. Mae’n wych bod canu’r delyn wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n falch i Elinor fod yn un o’m myfyrwyr.
“Mae hi wedi gweithio mor galed yn ysgogi cerddorion dawnus ifanc ac mae hynny mor bwysig. Nid yn unig y mae’n cadw cerddoriaeth yn fyw ond mae’n rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth hefyd. Mae gweld telynorion o bedwar ban byd yn dod i ogledd Cymru er mwyn dathlu’r delyn yn wych o beth.
“Rwy’n canu’r delyn unwaith eto ar ôl seibiant o 15 mlynedd tra’r oeddwn yn gofalu am fy niweddar wraig Rene. Rwy’n canu’r organ yn y capel ym Mhwllheli lle rydw i wedi byw ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn.
“Rwy’n mwynhau cyfansoddi eto a chwarae wrth gwrs. Doeddwn i ddim yn credu y gallwn i chwarae eto ond synnais i fy hun o ran pa mor hawdd oedd hi i mi ailgydio ynddi.
“Pan fyddwch chi’n chwarae llawer, mae’ch bysedd yn caledu’n naturiol ond pan fyddant yn feddal ac os nad ydych chi wedi chwarae ers nifer o flynyddoedd, gall fod yn eithaf anodd.”
Ganed Dr Ellis yn Ffynnongroyw ym 1928, yn fab i weinidog anghydffurfiol, a phan oedd yn fachgen, roedd ganddo obsesiwn am ddau beth – canu’r delyn a chwarae pêl-droed.
Cofiodd: “Dewisais y delyn am fod gennym un adref. Roedd fy mam, Jennie, yn delynores amatur dda. Y Parchedig Tomos Griffith Ellis oedd fy nhad, felly roeddem yn symud o gwmpas cryn dipyn fel teulu.
“Treuliasom rai blynyddoedd yn byw yn Ninbych a fi oedd gôl-geidwad Ysgol Sirol Dinbych. Arferai’r bechgyn ddweud fy mod i’n well am chwarae pêl-droed na chwarae’r delyn!
“Dysgais fy hun i ganu’r delyn i ryw raddau a rhoddodd mam anogaeth i mi. Mi wnaethon ni chwarae mewn llawer o gyngherddau bach o gwmpas Dinbych adeg y rhyfel. Roedd gen i athrawes wych hefyd, sef Alwena Roberts, a ddysgodd fyfyrwyr ar hyd a lled gogledd Cymru.”
Fodd bynnag, yn dilyn ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1943, cafodd ysgoloriaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol dan Gwendolen Mason ac fe’i holynodd fel Athro’r Delyn yno rhwng 1959 a 1989.
Yna ym 1960, cyfarfu â’r cyfansoddwr enwog, Benjamin Britten, a chafodd gysylltiad hir gydag ef.
Dywedodd: “Gweithiais gryn dipyn gyda Benjamin Britten ac roeddem yn gyfeillion mynwesol. Ysgrifennodd gryn dipyn o gerddoriaeth yn arbennig ar fy nghyfer gan gynnwys ei Harp Suite rhagorol.
“Mewn gwirionedd, ysgrifennodd rhan y delyn o nifer o’i waith gyda fi yn ei feddwl ac mi wnes i recordio llawer o’i weithiau.
“Ym 1961, ymunais â Cherddorfa Symffoni Llundain fel prif delynor gan berfformio’n aml yn y London Palladium.
“Mi wnes i gymryd rhan mewn dau berfformiad Royal Variety ym mhwll y gerddorfa yn y London Palladium, oedd yn cynnwys Bob Hope a llawer o sêr mawr eraill. Ymunais â Cherddorfa Wally Stott hefyd gan chwarae ar y Goon Shows gwreiddiol gyda Spike Milligan, Harry Secombe a Peter Sellers ac am gyfnod byr, Michael Bentine.
“Mewn gwirionedd, mae gen i ychydig o gywilydd fy mod i’n dal i gael siec breindal am ryw £100 oddi wrth y BBC bob blwyddyn am chwarae ar y Goon Show, gan fod y rhaglen yn parhau i gael ei hailddarlledu ar y radio mor aml heddiw – mae’n rhyfeddol.
“Yn ystod Gŵyl Prydain ym 1951, roeddwn yn gweithio am dymor mewn cerddorfa yn Stratford-upon-Avon.
“Rhennais dŷ gyda dau actor o Gymru, Hugh Griffith a bachgen da o’r cymoedd, Richard Burton a’i wraig gyntaf, Sybil. Cawsom ginio Nadolig gyda’n gilydd hyd yn oed.
“Arhosais yn ffrindiau da gyda Richard Burton ac, ar ddechrau’r 1960au, aethon ni fel teulu, sef Rene, ein meibion, Tomos a Richard a finnau i weld Richard Burton, oedd gydag Elizabeth Taylor bryd hynny, ar set Where Eagles Dare yn Stiwdios Elstree.
“Mi wnaethon ni eu gwylio nhw’n saethu golygfa ac wedyn aethom yn ôl i’w drelar. Roedd Elizabeth Taylor yn bwydo siocled drwy’r adeg i Tomos a Richard ac roedd yn amlwg eu bod wrth eu boddau!”
Disgrifiwyd Dr Ellis gan Elinor Bennett fel unigolyn eiconig oedd wedi gwneud cyfraniad aruthrol.
Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n dathlu pen-blwydd fy mentor, Osian Ellis, yn 90 oed a’n bod ni’n mwynhau dathlu ei waith a’r gerddoriaeth y mae wedi’i chreu yn ystod ei yrfa hir.
“Rwy’n gwybod y bydd safon y gystadleuaeth yn y pum categori eleni yn eithriadol o uchel ac y bydd hynny yn ei hun yn deyrnged i Osian, gŵr arbennig gyda dawn arbennig.”
Bydd yr ŵyl yn dod i ben ar nos Wener, 20 Ebrill, gyda chyngerdd dan ei sang yn cynnwys Syr Bryn Terfel fel y prif atyniad. Bu rhaid aildrefnu’r gyngerdd oherwydd bod y bariton bas byd-enwog yn gwella o flinder lleisiol.
Roedd disgwyl i’r gyngerdd ddigwydd yn wreiddiol ar 8 Chwefror, sef dyddiad pen-blwydd Dr Ellis yn 90 oed.
Bydd partner Syr Bryn, sef y cyn delynores frenhinol Hannah Stone, yn ymuno ag ef ar y noson, lle byddant yn perfformio gwaith newydd gan Dr Ellis, Cylch o Ganeuon Gwerin Cymraeg.
Bydd y gyngerdd yn cynnwys pedwar artist Cymraeg ifanc sy’n dod i’r amlwg, sef y delynores, Glain Dafydd, y chwaraewr trwmped Gwyn Owen, y soprano Gwen Elin a’r tenor Huw Ynyr Evans.