Mi wnaeth un o delynorion ifanc mwyaf dawnus y Deyrnas Unedig gyfnewid Neuadd Albert yn lundain am gartref gofal yng Nghaernarfon.
Rhoddodd Elfair Grug, 29 oed, sydd wedi perfformio yn y lleoliad mawreddog yn Llundain, berfformiad rhyfeddol i breswylwyr Bryn Seiont Newydd, cartref gofal dementia Parc Pendine.
Cynhaliwyd y cyngerdd o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon ac Ymddiriedolaeth Celf a’r Gymuned Parc Pendine ac fe’i galuogwyd gan gyllid Celfyddydau a Busnes Cymru trwy eu rhaglen CultureStep.
Mae’n rhan o gyfres o 15 o gyngherddau a gaiff eu cynnal yng nghartrefi gofal Parc Pendine yn Wrecsam a Chaernarfon ac mewn lleoliadau eraill yn y gymuned
Uchafbwynt y prosiect fydd cyngerdd gan y cyn-Delynores Frenhinol Catrin Finch yn Bryn Seiont Newydd ar Ebrill 18, cyn ei pherfformiad yng nghyngerdd Gŵyl Delynau Cymru 2019 yn Galeri yng Nghaernarfon.
Mae Elfair, sy’n hanu o Mynytho yng Ngwynedd, yn gyn-ddisgybl i’r delynores enwog, Elinor Bennett, yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Galeri, Caernarfon, ac aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion.
Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr am nifer o flynyddoedd gan chwarae mewn lleoliadau fel Neuadd y Royal Albert.
Ac yn 2008 roedd hi’n un o 60 telynor a chwaraeodd yn y Tŷ Opera Brenhinol pan ddathlodd y Tywysog Charles ei ben-blwydd yn 60 oed.
Aeth Elfair ymlaen i dreulio dwy flynedd yn byw yn Bangkok yng Ngwlad Thai, lle bu’n gweithio fel athrawes telyn a thelynores breswyl yng Nghanolfan Delynau Tamnak Prathom a gefnogir gan Deulu Brenhinol Gwlad Thai, ac sydd wedi ei gefeillio â Chanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.
Meddai: “Rwyf wedi mwynhau cyngerdd heddiw’n fawr. Roedd hi’n hyfryd gweld rhai preswylwyr yn ymuno a chanu efo’r delyn. Mae’r gerddoriaeth yn amlwg yn cael effaith fawr ar y preswylwyr a chawsom lawer o gyswllt llygaid ac roedd un ddynes yn amlwg wrth ei bodd yn fy arwain wrth i mi chwarae.
Elfair Grug gyda phreswylwyr Vera Morris a Gwyndaf Williams ynghyd â Nia Davies Williams, cerddor preswyl yn Bryn Seiont Newydd. (Llun: Mandy Jones)
“Dim ond cyngerdd oedd hwn ond byddaf yn dychwelyd i Bryn Seiont Newydd fel rhan o’r prosiect gan weithio efo preswylwyr fel rhan o weithdy. Yna byddaf yn cyflwyno rhai offerynnau taro ac yn gweithio’n agos efo’n gilydd.
“Mae’r ystafell gerdd yn Bryn Seiont Newydd yn adnodd gwych ac mae’n amlwg i mi fod y preswylwyr yn elwa’n fawr o gael cyfle i wrando ar gerddoriaeth fyw.”
Perfformiodd Elfair ddetholiad o ganeuon clasurol, caneuon gwerin traddodiadol a chaneuon poblogaidd, yn cynnwys rhai gan Elton John a’r Beatles.
Dywedodd: “Rwyf bob amser yn mwynhau perfformio mewn cartrefi gofal; mae’n awyrgylch agos atoch ac yn brofiad gwerth chweil. Rwy’n gweithio fel telynor llawrydd ac yn perfformio gyda grwpiau siambr neu gerddorfeydd llawn ond fel cerddor mae’r ymateb a gewch gan lawer o breswylwyr cartrefi gofal yn anhygoel.
“Yn sicr, mi wnaeth y preswylwyr ymuno efo’r delyn i gyd-ganu’r alaw werin draddodiadol o’r Alban ‘Draw Dros y Dŵr i Skye’, ac mae’n amlwg yn gân y maen nhw’n ei chofio’n dda o’r sesiynau y mae Nia Davies Williams fel cerddor preswyl wedi eu gwneud gyda nhw.”
Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn wych ac rwyf wedi mwynhau pob munud o gyngerdd heddiw. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd a chwarae i breswylwyr eto a gweithio efo nhw fel rhan o’r gweithdy.”
Dywedodd Margaret ‘Peggy’ Morris, un o’r preswylwyr a chyn-weithiwr switsfwrdd yng Ngwaith Dur Shotton: “Mae’r gerddoriaeth yn ymlaciol iawn ac mae’n braf cael cyngherddau fel hyn. Mae’n rhywbeth ardderchog i edrych ymlaen ato.”
“Rwy’n hoffi bod yma’n fawr. Rwy’n dod o Mancot, Sir y Fflint ond symudais i Rhoshirwaun. Sali yw fy ffrind gorau ac mae hi’n dod i’m gweld bob yn ail ddiwrnod.
Ychwanegodd ffrind gorau Peggy, Sali Williams o Rhoshirwaun, Gwynedd: “Mae Bryn Seiont Newydd yn lle mor wych ac mae cymaint yn digwydd ar hyd yr adeg. Mae cerddoriaeth yn cyfoethogi bywydau preswylwyr; mae’n therapi go iawn ac yn dod ag atgofion yn ôl. Rwy’n gwybod bod Peggy yn mwynhau byw yma’n fawr.”
Dywedodd Nia Davies Williams, Cerddor Preswyl Parc Pendine: “Bydd y gyfres o gyngherddau yn mynd i nifer o gartrefi gofal Parc Pendine yn ogystal â Chanolfan Dementia Hafod Hedd, Pwllheli a Chanolfan Gofal Dydd Bontnewydd. Mae’r rhaglen yn bosibl diolch i arian gan Celfyddyd a Busnes Cymru.
“Bydd yn galluogi Canolfan Gerdd William Mathias a Parc Pendine i adeiladu ar eu perthynas yn dilyn nawdd Pendine i Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru 2018.
“Mae’r delynores broffesiynol Elfair Grug yn un o gyn-fyfyrwyr telynau Canolfan Gerdd William Mathias, a hi fydd yn cyflwyno’r 15 cyngerdd ac yn ymgysylltu gyda phreswylwyr mewn cyfres o weithdai hefyd.
“Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i fynychu rhai o’r sesiynau cyngerdd i gael blas o gerddoriaeth mewn lleoliadau cymunedol a chael eu mentora gan Elfair.”
Ychwanegodd: “Mae’n brosiect ardderchog ac rydym yn gwybod o brofiad blaenorol bod nifer sylweddol o’r preswylwyr yn mwynhau’r cyngherddau bach hyn. Rydym wedi gallu rhoi’r prosiect at ei gilydd diolch i Arian CultureStep Celfyddyd a Busnes Cymru.
“Roedd yn amlwg bod y preswylwyr wrth eu boddau yn gwrando ar gerddoriaeth, ac ymunodd llawer ohonynt trwy ganu a hyd yn oed chwibanu i gyfeiliant y delyn. Mae’n hyfryd gweld eu hymateb i gerddoriaeth gyfarwydd a sut y maen nhw’n ymuno i ganu’r caneuon a’r alawon y maen nhw’n eu hadnabod.”
Dywedodd Sandra Evans, rheolwr Bryn Seiont Newydd: “Mae’r prosiect hyfryd hwn yn asio’n berffaith efo’n hethos yn Parc Pendine oherwydd bod y celfyddydau yn gyffredinol a cherddoriaeth yn arbennig yw’r llinyn arian sy’n rhedeg trwy bopeth a wnawn i gyfoethogi bywydau ein preswylwyr a’n staff fel ei gilydd.”