Neges gan Elinor Bennett, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl:
Cofio – talu teyrnged – a throsglwyddo’r awen fydd prif themâu Gŵyl Delynau Cymru eleni.
Tristwch mawr oedd clywed ym mis Ionawr am farwolaeth Osian Ellis, Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl hon, un o’r telynorion mwyaf a welodd Cymru erioed. Hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu farw Ann Griffiths a Mair Jones, dwy delynores eithriadol a fu’r dysgu cenedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru i ganu’r delyn. Mae’r Ŵyl yn gyfle inni gydnabod ein dyled i’r tri thelynor a diolchwn am eu cyfraniadau anhygoel i ddiwylliant Cymru ac i gerddoriaeth y delyn yn rhyngwladol.
Yn ystod wythnos y Pasg, arferai dwsinau o delynorion, yn ifanc a hŷn, ddod gyda’u telynau i Gaernarfon i gymeryd rhan yn yr Ŵyl Delynau yn Galeri, i gael gwersi, gwrando ar eraill, cymdeithasu a dysgu gyda’i gilydd. Eleni, er gwaethaf y Covid, byddwn yn cadw’r fflam yn fyw trwy drosglwyddo’r Ŵyl i fywyd newydd, rhithiol ar y we.
Bydd athrawon telyn blaenllaw yn rhoi gwersi trwy gyfrwng Zoom a chynhelir llawer o ddigwyddiadau eraill i gofio’n Llywydd, Osian Ellis, gan gynnwys y perfformiad cyntaf o’i waith newydd “Dagrau / Lachrymae” a gyhoeddwyd y llynedd .
Trosglwyddo’r awen o gewri’r gorffennol i genedlaeth newydd yw amcan yr Ŵyl. Ynghanol ein trybini, mae’r delyn a’i cherddoriaeth yn codi’r galon ac yn cyfoethogi bywydau.
Estynnwn groeso brwd i delynorion a chyfeillion y delyn o bob rhan o’r byd i ddod atom yn rhithiol i Gymru. Darllenwch am yr alwy a chliciwch ar y botwm “Cofrestru”. Felly, ewch ati ar eich hunion!!!