Dydd Sul, Ebrill 1 2018 | 8:00yh | Theatr, Galeri Caernarfon
Sioned Gwen Davies (Mezzo-soprano)
Rhys Meirion (Tenor)
Valeria Voshchennikova (Rwsia) Pencerdd 2014
Pedwarawd Llinynnol a Thelynorion CGWM
Côr Telyn Hŷn Gwynedd a Môn
Dawnswyr Dawns i Bawb
Rhaglen yn cynnwys:
“Osian”
Perfformiad cyntaf o waith cydweithredol newydd gan Y Prifardd Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth gan ddwy o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru – Mared Emlyn a Gwenan Gibbard – i ddathlu penblwydd Osian Ellis yn 90 oed.
N.B. Bydd enillydd Cystadleuaeth Pencerdd yng Ngwyl 2014 Valeria Voshchennikova, yn dychwelyd i Gaernarfon i berfformio cerddoriaeth o’i gwlad enedigol, Rwsia.
Tocynnau ar gael rŵan o Galeri Caernarfon.
Cynlluniwyd y cyngerdd i ddathlu gwaith Osian Ellis fel telynor a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Mared Emlyn a Gwenan Gibbard ar farddoniaeth wreiddiol gan y Prifardd Mererid Hopwood. Sioned Gwen Davies (soprano) a Rhys Meirion (tenor) fydd yn canu’r geiriau, gyda cherddorion o Ganolfan Gerdd William Mathias a dawnswyr o Dawns i Bawb.
Dyma gyflwyniad Mererid Hopwood (prif lun uchod) i’r gwaith :
“OSIAN” Mae naw caniad yn y gerdd. Yn y gyntaf, tywysir y darllenydd o ddydd geni sain i’r eiliadau pan rhoddwyd y gân i’r ddynolryw am y tro cyntaf. Yna, yn lleisiau’r gleiniau glaw a blodau’r drain ac yn alawon y gwynt drwy’r coed, clywir y gân yn galw enw Osian. Gan fenthyg themâu o hen, hen chwedl Osian a Nia Ben Aur, yn yr olgyfa nesaf cawn ddilyn y ceirw drwy’r coed i Dir Na Nog. Yma, gwelwn Nia ar ffurf y fedwen fud, a’r pren a’r tannau’n disgwyl bysedd a dwylo Osian i roi iddi ei chân. Yn y ddeuawd sy’n dilyn, symudwn o guriad tabyrddau tywyllwch i doriad gwawr ac i gân y ’deryn du. Unir Osian a Nia wrth i’r chweched olygfa orlifo yn un fiesta o lawenydd. Mae eu huniad yn esgor ar gân newydd sydd yn ei thro yn rhoi adenydd i’r hen draddodiadau wrth i ni symud drwy olygfeydd 7 ac 8. Cyrhaeddwn olygfa 9, a chawn glywed sut y daeth hi’n amser trosglwyddo’r melodïau newydd hyn i’r cenedlaethau a ddaw.
Gwaith comisiwn gan Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru gan gronfeydd CCC, RVW Trust, PRSF Fondation for Music, Foyle’s, Colwinston Trust.