Dathliad o delynau Cymru ac Iwerddon

15 Apr 2017

Cynhaliwyd Gŵyl Delynau Cymru 2017 ar y 12 a 13 Ebrill yn Galeri Caernarfon gan ddathlu telynau Cymru a Iwerddon.

Cynhaliwyd cwrs deuddydd i delynorion o bob oed a gallu, gyda dwy delynores blaenllaw o Iwerddon, Denise Kelly a Cliona Doris yn ymuno â chyfarwyddwraig yr ŵyl, Elinor Bennett, Catrin Morris Jones ac Elfair Grug o Gymru i ddysgu a dathlu hanes hirfaith y delyn yn y ddwy wlad Geltaidd.

Bu myfyrwyr o Conservatorie DIT yn Nulyn hefyd yn ymweld â’r ŵyl gan ddysgu alawon Gwyddelig i fyfyrwyr ar y cwrs a berfformiwyd yn ystod y cyngerdd ‘Galerïau Galeri’ a gynhelir ym mannau cyhoeddus y ganolfan celfyddydau.

Bu diwrnod cyntaf yr ŵyl yn cynnwys darlith gan Dr Sally Harper ar ‘Creu Traddodiad ar y cyd: Telynorion Cymreig a Gwyddelig yng Nghyngor Canoloesol Glyn Achlach, Co. Leinster’.

Dr Sally Harper yw’r awdurdod pennaf yn  rhyngwladol ar gerddoriaeth gynnar Cymru a bu’n cynnig allwedd i ddatgloi dirgelion un o’n chwedlau difyr sydd wedi hen  fynd yn angof gan ddisgrifio sut y gwnaeth Gruffydd ap Cynan a alwyd yn ‘Dywysog Cymru’ ddod â cherddorion Gwyddelig i Gymru, a ffurfio cyngerdd neu eisteddfod ar gyfer cerddorion Cymrig a Gwyddelig yng Nghaerwys.

Yn dilyn y ddarlith, am 6:30yh cynhaliwyd Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Nansi Richards 2017 a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Nansi Richards.

Roedd cyngerdd yr ŵyl ‘Telynau’r Môr Celtaidd’ yn cynnwys perfformiadau o gerddoriaeth traddodiadol a chlasurol o Gymru ac Iwerddon gan rhai o delynorion ifanc mwyaf talentog o’r ddwy wlad.

Bu y telynorion blaenllaw Gwyddelig Denise Kelly a Cliona Doris a deg o fyfyrwyr o’r DIT Conservatoire of Music, Dulyn yn perfformio ynghyd â thelynorion Cymreig, gan ddarparu rhaglen amrywiol a bywiog o gerddoriaeth o ddau lan y Môr Celtaidd.

Perfformiodd y gantores werin Gwenan Gibbard ynghyd a’i chôr newydd – “Côr yr Heli” – eu perfformiad cyntaf cyn iddynt deithio i Iwerddon i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Carlow yr wythnos ganlynol, ynghyd â dwy o gyn-fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias, Elfair a Rhiain Dyer a Côr Telyn Gwynedd a Môn.

Erthyglau Arall

Edrych yn ôl dros yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2023

Edrych yn ôl dros yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2023

Neges gan Elinor Bennett Cyfarwyddwr ArtistigTachwedd 2022Cynhelir pumed Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Galeri Caernarfon o’r 5-11 o Ebrill 2023, a chawn gyfle euraid i ddod â phobl at ei gilydd i gael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth telyn o ddiwylliannau amrywiol...

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

Noddwyr yr Ŵyl yn 2023