Cynhaliwyd Gŵyl Delynau Cymru 2017 ar y 12 a 13 Ebrill yn Galeri Caernarfon gan ddathlu telynau Cymru a Iwerddon.
Cynhaliwyd cwrs deuddydd i delynorion o bob oed a gallu, gyda dwy delynores blaenllaw o Iwerddon, Denise Kelly a Cliona Doris yn ymuno â chyfarwyddwraig yr ŵyl, Elinor Bennett, Catrin Morris Jones ac Elfair Grug o Gymru i ddysgu a dathlu hanes hirfaith y delyn yn y ddwy wlad Geltaidd.
Bu myfyrwyr o Conservatorie DIT yn Nulyn hefyd yn ymweld â’r ŵyl gan ddysgu alawon Gwyddelig i fyfyrwyr ar y cwrs a berfformiwyd yn ystod y cyngerdd ‘Galerïau Galeri’ a gynhelir ym mannau cyhoeddus y ganolfan celfyddydau.
Bu diwrnod cyntaf yr ŵyl yn cynnwys darlith gan Dr Sally Harper ar ‘Creu Traddodiad ar y cyd: Telynorion Cymreig a Gwyddelig yng Nghyngor Canoloesol Glyn Achlach, Co. Leinster’.
Dr Sally Harper yw’r awdurdod pennaf yn rhyngwladol ar gerddoriaeth gynnar Cymru a bu’n cynnig allwedd i ddatgloi dirgelion un o’n chwedlau difyr sydd wedi hen fynd yn angof gan ddisgrifio sut y gwnaeth Gruffydd ap Cynan a alwyd yn ‘Dywysog Cymru’ ddod â cherddorion Gwyddelig i Gymru, a ffurfio cyngerdd neu eisteddfod ar gyfer cerddorion Cymrig a Gwyddelig yng Nghaerwys.
Yn dilyn y ddarlith, am 6:30yh cynhaliwyd Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Nansi Richards 2017 a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Nansi Richards.
Roedd cyngerdd yr ŵyl ‘Telynau’r Môr Celtaidd’ yn cynnwys perfformiadau o gerddoriaeth traddodiadol a chlasurol o Gymru ac Iwerddon gan rhai o delynorion ifanc mwyaf talentog o’r ddwy wlad.
Bu y telynorion blaenllaw Gwyddelig Denise Kelly a Cliona Doris a deg o fyfyrwyr o’r DIT Conservatoire of Music, Dulyn yn perfformio ynghyd â thelynorion Cymreig, gan ddarparu rhaglen amrywiol a bywiog o gerddoriaeth o ddau lan y Môr Celtaidd.
Perfformiodd y gantores werin Gwenan Gibbard ynghyd a’i chôr newydd – “Côr yr Heli” – eu perfformiad cyntaf cyn iddynt deithio i Iwerddon i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Carlow yr wythnos ganlynol, ynghyd â dwy o gyn-fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias, Elfair a Rhiain Dyer a Côr Telyn Gwynedd a Môn.