Mae telynores fyd-enwog, a fethodd gymeryd rhan mewn gŵyl fawr oherwydd ei bod yn brwydro yn erbyn canser y fron, am gadw ei haddewid i berfformio yn yr ŵyl eleni.
Bydd Catrin Finch, cyn-delynores frenhinol, yn cymryd rhan flaenllaw yng Ngŵyl Delynau Cymru a gynhelir yng Nghaernarfon ar y 17 a 18 Ebrill.
Wedi diagnosis o ganser y fron, derbyniodd Catrin saith triniaeth o gemotherapi dros bedwar mis a chael mastectomi ddwbl yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.
Derbyniodd Ms Finch, sydd yn wreiddiol o Lanon, Ceredigion, yr anrhydedd o fod yn Delynores Frenhinol yn 2000 – y person cyntaf ers 1872 i ddal y swydd.
Roedd y pedair mlynedd a dreuliodd fel Telynores i Dywysog Cymru yn ffordd wych i lansio gyrfa ddisglair iawn.
Ers hynny, bu’n perfformio’n helaeth ledled UDA, De America, y Dwyrain Canol, Asia, Awstralia ac Ewrop, fel unawdydd, gan ymddangos gyda llawer o gerddorfeydd gorau’r byd.
Dywedodd: “Roeddwn yn benderfynol o berfformio yng Ngŵyl Delynau Cymru eleni gan mai Elinor Bennett, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, oedd fy athrawes telyn am lawer blwyddyn.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn ac yn drist y bu raid imi golli’r digwyddiad y llynedd. ‘Doedd o ddim yn bosibl oherwydd y driniaeth roeddwn yn ei gael ar gyfer canser y fron.
“Ond dwi’n teimlo fod hynny o’r tu cefn i mi ‘nawr a’m bod wedi gwella ac allan o’r afiechyd. Dwi’n gallu gwneud yr hyn dw’i yn ei garu unwaith eto, ac mae gen i amserlen hynod o brysur o fy mlaen i.
“ Mae wedi bod yn amser ofnadwy, does dim cwestiwn am hynny. Yn anffodus, mae gennyn ddiffygiol gen i, ac arweiniodd hynny at canser y fron.”
“ Y peth gwaetha mewn ffordd oedd imi fethu canu’r delyn am fisoedd, rhwng Medi a Hydref. Roedd hynny’n anodd gan fy mod i’n ceisio ymarfer pob dydd pan fydd fy amserlen yn caniatáu.”
“Roedd peidio chwarae yn brofiad dieithr iawn, ond gallaf nawr roi hynny y tu cefn i mi a chario ymlaen a’m bywyd. ‘Rwyn ddiolchgar iawn.”
Ychwanegodd Catrin: “ Yn y cyngerdd, byddaf yn perfformio cerddoriaeth gan delynorion o Ffrainc a oedd yn cyfansoddi adeg Cytundeb Versailles, union gan mlynedd yn ôl, yn ogystal â cherddoriaeth gan Bach, Piazzola a William Mathias.
“ Yn yr un cyngerdd bydd telynores wych o Awstria, Monika Stadler yn perfformio ei chyfansoddiadau jazz ei hun. Yn sicr, bydd yn gymysgedd diddorol o arddulliau.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae yng Nghaernarfon gan fy mod ar hyn o bryd yn ymwneud â phrosiect gyda Seckou Keita, chwaraewr kora a drymiwr o Senegal.
“Rydym ni wedi rhyddhau dwy albwm gyda’n gilydd ac yn teithio, gan ddod â chyfuniad o arddulliau cerddorol gwahanol i gynulleidfaoedd ehangach. Dwi’n eithriadol o hapus gyda’r derbyniad mae ein cerddoriaeth yn ei gael.”
“Rydw i hefyd yn gweithio ar drefniadau i ddod â Chyngres Telynau’r Byd i Gaerdydd yn 2020. Bydd hwn yn ddigwyddiad tebyg i’r Gwyliau Telyn Rhyngwladol a drefnir gan Elinor Bennett yng Nghaernarfon, ac mi fydd yn braf gweld sut mae hi’n rhoi ei gŵyliau hynod lwyddiannus at ei gilydd.”
Yn union fel y Gemau Olympaidd, cynhelir yr Ŵyl Delynau Ryngwladol bob pedair blynedd, ac yn ystod y blynyddoedd eraill bydd Gŵyl Delynau Cymru (ar raddfa llai) yn annog telynorion ifanc ac yn datblygu cynulleidfaoedd.
Dywedodd Elinor Bennett : “ Tyfodd yr Ŵyl allan o’r ysgolion telyn a gychwynnodd fy nhad (Emrys Bennett Owen) a minnau eu cynnal dros wyliau’r Pasg dros 40 mlynedd yn ol.”
“ Yn ogystal â chroesawu Catrin Finch a Monika Stadler i berfformio yng Nghaernarfon, cynhelir dosbarthiadau telyn a gweithdai yn ystod y dydd ar gyfer myfyrwyr o bob oedran, gyda thîm o athrawon profiadol o Ogledd Cymru – Dafydd Huw, Catrin Morris-Jones, Elfair Grug a minnau.
“ Ar Ebrill 17 cynhelir y gystadleuaeth i goffáu y delynores enwog, Nansi Richards, a fu farw yn 1979. Dyfernir yr Ysgoloriaeth, sy’n werth £1500, i delynor neu delynores ifanc o Gymru.
Thema gŵyl eleni yw arwyddo Cytundeb Versailles ym mis Mehefin 1919 a ddaeth â’r Rhyfel Mawr i ben.
Chwaraeodd y Prif Weinidog ar y pryd, David Lloyd George, rôl bwysig, er dadleuol, wrth arwyddo’r cytundeb heddwch yn Ewrop.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl Elinor Bennett: “Roedd David Lloyd George yn allweddol wrth arwyddo Cytundeb Versailles a ddaeth ar ddiwedd y Rhyfel dychrynllyd .
“Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n cofio’r cyfnod a’r rôl a chwaraeodd David Lloyd George (Aelod Seneddol Caernarfon) yn y trafodaethau.
“Tua’r un amser, gwahoddwyd Nansi Richards, y delynores Cymreig, i Downing Street i chwarae’r delyn ar gyfer David Lloyd George a’i deulu.”
” Bydd Catrin Finch yn perfformio gweithiau gan dri chyfansoddwr / telynor Ffrengig dylanwadol yn ystod yr ŵyl i gofio canmlwyddiant llofnodi’r cytundeb.
“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at glywed gwaith Monika Stadler a fydd yn perfformio nifer o gyfansoddiadau jazz ei hun.
“Mae Monika, sy’n byw yn Fienna, yn dod a chwa o awyr iach a dimensiwn newydd i fyd cerddoriaeth y delyn gyda’i chyfansoddiadau jazz, gwerin, clasurol a byrfyfyr. Yn ddiweddar, fe ryddhaodd albwm o gerddoriaeth o’r enw “Song of the Welsh Hills.”
“Mi fydd hi’n Ŵyl ryfeddol arall yn llawn o gyngherddau, dosbarthiadau a gweithdai.
” Hoffwn annog pawb sy’n caru’r delyn a’i cherddoriaeth i brynu tocyn a chofrestru ar gyfer y dosbarthiadau a’r gweithdai.”