Datgelodd un o delynorion pennaf Cymru y bydd perfformiad cyntaf darn newydd o gerddoriaeth i gofio am foddi dadleuol pentref Capel Celyn yn achlysur hynod emosiynol iddi.
Arweiniodd taid Sioned Williams, Huw T Edwards, yr ymgyrch yn erbyn boddi Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn ger Y Bala yn 1965 i greu cronfa ddŵr i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl a Chilgwri.
Er i’r protestiadau ffyrnig fod yn aflwyddiannus yn y pen draw, roedd boddi’r pentref yn foment arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth Cymru a dywedir i’r digwyddiad ail-danio cenedlaetholdeb Cymreig.
Ar ôl bron i 30 mlynedd bydd y delynores, sy’n dod yn wreiddiol o’r Sychdyn yn Sir y Fflint, yn rhoi’r gorau i’w gwaith fel Prif Delynor Cerddorfa Symffoni’r BBC, ac mi gomisiynwyd y gwaith, Boddi Capel Celyn, ganddi ar ei phen-blwydd yn 60 oed.
Hi fydd yn chwarae’r darn, a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Michael Stimpson, yng Ngŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Eglwys y Santes Fair yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Pasg, Ebrill 2.
Bydd uchafbwyntiau eraill yr ŵyl, sydd yn ei phedwaredd blwyddyn, yn cynnwys dathliad o fywyd a gwaith y telynor byd-enwog, Dr Osian Ellis, i nodi ei ben-blwydd yn 90 oed.
Yn ogystal â bod yn Athro’r Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol, bu Dr Ellis am flynyddoedd lawer yn Brif Delynor Cerddorfa Symffoni Llundain, ac roedd gan Benjamin Britten gymaint o feddwl ohono nes iddo ysgrifennu ei Harp Suite yn arbennig ar ei gyfer.
Bydd dros 100 o delynorion o wledydd mor bell i ffwrdd â Siapan, America, Rwsia a Gwlad Thai yn dod i’r ŵyl, sy’n defnyddio Galeri yng Nghaernarfon fel ei phrif leoliad, o Sul y Pasg, Ebrill 1 i ddydd Sadwrn, Ebrill 7.
Yn ôl yn y 1960au, roedd Huw T Edwards yn arweinydd undeb llafur dylanwadol gyda’r Undeb Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol yng ngogledd Cymru ac fe’i etholwyd yn gadeirydd ymgyrch Achub Tryweryn, rhywbeth y mae Sioned Williams yn hynod falch ohono.
Meddai: “Rwy’n cofio eistedd ar lannau Llyn Celyn fel merch ifanc gyda Thaid ac roeddwn i’n synhwyro rhyw deimlad o dristwch mawr sy’n parhau gyda mi hyd heddiw. Rwyf wedi ymweld â’r fan sawl gwaith ers hynny a myfyrio ar y digwyddiadau ofnadwy na ddylent fod wedi digwydd.
“Mae’r gwaith gan Michael Stimpson mor ingol a chyngerdd Caernarfon fydd y perfformiad cyntaf yng Nghymru o’r gwaith a bydd yn cael ei berfformio ym mhresenoldeb y cyfansoddwr gan fod Michael Stimpson ei hun yn bwriadu bod yno.
“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cael cyfle i fyfyrio unwaith eto wrth iddynt wrando ar waith hudolus a hyfryd.”
Ychwanegodd: “Chwaraeodd fy Nhaid, Huw T Edwards, ran bwysig wrth geisio atal y boddi ac mi geisiodd tri dyn, Owain Williams, Emyr Llewelyn Jones a John Albert Jones, a fu farw ym mis Tachwedd y llynedd, ffrwydro transfformer trydan ar safle’r argae.
“Mae’n debyg fod Taid wedi talu arian mechnïaeth i gael un o’r tri allan o’r carchar.”
“Mae cyfansoddiad Michael Stimpson yn waith mor rhyfeddol a hyfryd, sy’n gwneud cyfiawnder â’r hyn yr oedd pobl yn ei deimlo, y dinistr llwyr wrth i’r dŵr ruthro i mewn i’r cwm a boddi’r capel, swyddfa’r post, tŷ cwrdd y Crynwyr a’r bythynnod.”
Ac, ar ddechrau’r perfformiad, bydd Sioned yn darllen cerdd, ‘Tryweryn’, a ysgrifennwyd gan ei thad Huw T Edwards a’i chyhoeddi yn ei gyfrol o gerddi Cymraeg, sef ‘Tros F’ysgwydd’ mewn llyfr o’i gerddi Cymraeg,.”
Yn gyn-ddisgybl i gyfarwyddwr yr ŵyl, Elinor Bennett, aeth Sioned ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle cafodd ei dysgu gan Dr Osian Ellis.
Sioned oedd yr ail delynor yn unig i ennill y Diploma Datganiad, yr arholiad perfformiad uchaf ei glod yn yr Academi Frenhinol, ac Elinor Bennett oedd y cyntaf.
Bu’n teithio ar draws y byd fel unawdydd telyn am bron i 20 mlynedd ac mae wedi cyflwyno ei rhaglenni radio ei hun ar Radio 4 a’r World Service, a hi oedd y cerddor cyntaf o Brydain i ennill gwobr nodedig y Concert Artist Guild yn Efrog Newydd.
Fodd bynnag, ar ôl arwyddo contract i fod yn Brif Delynor gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC yn 1990, cafodd Sioned y diagnosis ysgytwol ei bod yn dioddef o anhwylder genetig prin – clefyd McArdle, sef anhwylder storio glycogen.
Meddai: “Fedra ddim mynegi’r holl emosiynau a brofais bryd hynny. Fodd bynnag, mi benderfynodd fy nghalon reoli fy mhen a dyma ni 28 mlynedd yn ddiweddarach ac rwy’n dal i fod yn delynores.
“Ond ar ôl 28 o flynyddoedd cyffrous yn gweithio gyda’r cyfansoddwyr a’r arweinyddion mwyaf rhyfeddol yn y byd, byddaf yn gadael fy swydd ac yn cynnal cyngerdd olaf gyda’r gerddorfa o dan faton Syr Andrew Davis yn y Barbican ar Ebrill 13. Byddaf wedyn yn canolbwyntio ar ddilyn anturiaethau cerddorol eraill. Fy mwriad yw parhau i chwarae’r delyn am byth. Fedra i ddim rhoi’r gorau iddi!”
Yn ôl Elinor Bennett, bydd y cyngerdd gyda Sioned am 7.30yh ar ddydd Llun y Pasg yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon yn achlysur bythgofiadwy a theimladwy iawn.
Dywedodd: “Mae’r ffaith bod taid Sioned wedi arwain yr ymgyrch yn erbyn dinistrio a boddi Capel Celyn yn ychwanegu cyffyrddiad personol go iawn i’r hyn sy’n parhau i fod yn fater emosiynol i lawer o Gymry.
“Rwy’n rhannu atgofion Sioned gan fod fy nhad, Emrys Bennett Owen, hefyd yn rhan o’r ymgyrch i achub y pentref ac, fel cadeirydd Cyngor Gwledig Penllyn, roedd yn rhan o’r ddirprwyaeth a aeth i lobïo AS Lerpwl, Bessie Braddock .
“Rwy’n falch iawn y bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth wych ar gyfer lleisiau a thelyn deires gan gyfansoddwyr enwog – John Rutter, Benjamin Britten, Gustav Holst a’i ferch, Imogen Holst a fu’n gweithio gydag Osian Ellis yng Ngŵyl Benjamin Britten yn Aldeburgh.
“Bydd yn bleser arbennig croesawu cantorion nodedig Côr Palestrina Cadeirlan y Santes Fair, Dulyn gyda’u Cyfarwyddwr, Dr Blanaid Murphy, i berfformio pedwar gwaith amheuthun ar gyfer côr a thelyn gyda Sioned Williams ac Anne Denholm, Telynores Swyddogol Tywysog Cymru.
“Bydd yn noson anhygoel!”