Cystadleuaeth

Ieuenctid

Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl, Medi 1af 2003

Mae’r broses gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma bellach wedi cau.

Cylch 1: Rhaglen (15’)

Dydd Gwener, 7 Ebrill am 9:00am

Rhaglen amrywiol, i gynnwys un o’r canlynol:
John Thomas: Unrhyw un o’r 24 Alaw Gymreig (Adlais)
L. Dussek: Un o’r 6 Sonatina (cyflawn) Musica Antiqua Bohemia (Edition Suprafon)
J S Bach: Bourée tr. H. Renié – Les Classiques de la Harpe vol. 3 (Leduc) 

Cylch 2: Rhaglen (20’)

Dydd Sadwrn, 8 Ebrill am 2:00pm

Rhaglen amrywiol i gynnwys un o’r canlynol:
Gareth Glyn: Erddigan – Telyn Fyw 1 (Curiad)
Ann Griffiths: Beth yw’r Haf i mi? (Adlais)
Meinir Heulyn: Pedair Waltz o Gymru – Gwledd Geltaidd 1
Alun Hoddinott: Sonata
William Mathias: Three Improvisations
John Parry: Sonata Rhif 2 – cyflawn (unrhyw argraffiad)
Grace Williams: Hiraeth

Caniateir ailadrodd un darn o Gylch 1 os dymunir.

Gwobrau

Tair Ysgoloriaeth gyfartal o £1,500 ar gyfer hyfforddiant telyn

£60

Mae hyn yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl gan gynnwys y cyngherddau nos.

Beirniaid

Geraint Lewis (Cadeirydd)

Ganwyd Geraint Lewis yng Nghaerdydd yn 1958 a’i addysgu yn ysgolion Bryntaf, Rhydfelen, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru ac yng Ngholeg Ioan Sant, Caergrawnt fel disgybl i’r diweddar George Guest. Gweithiodd yn agos gyda nifer o gyfansoddwyr gan gynnwys William Mathias, Alun Hoddinott, Michael Tippett, George Benjamin a Pwyll ap Siôn. Yn adnabyddus fel darlithydd, cyfansoddwr, ysgolhaig, cyfarwyddwr gwyliau, cynhyrchydd recordiau a chadeirydd pwyllgorau mae hefyd yn ddarlledwr ac yn gyfrannwr cyson i gylchgronau Barn a Gramophone. Perfformiwyd ei anthem ‘The Souls of the Righteous’ i gofio’r Frenhines yng Nghadeirlan St.Paul’s ar Fedi’r 9fed y llynedd.

Clíona Doris

Athro’r delyn yn y Conservatoire TU Dulyn yw Cliona Doris, ac yn darlithio mewn astudiaethau perfformio, y delyn ac ymchwil artistig, yn ogystal â chydlynu rhaglenni perfformio cerddoriaeth ôl-raddedig. Cyn hynny bu’n Bennaeth Astudiaethau Cerddorfaol a Phennaeth y Conservatoire. Fel telynores, mae ganddi brofiad helaeth o berfformio a recordio fel unawdydd a cherddor siambr, gyda diddordeb arbennig mewn cerddoriaeth gyfoes. Mae Clíona yn aelod o Fwrdd a Chorfforaeth Cyngres Delynau’r Byd, ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd y  Nawfed Gyngres yn Nulyn yn 2005. Gwasanaethodd hefyd fel aelod o fwrdd Music Generation and Music Network, a Chadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Canolfan Cerddoriaeth Gyfoes Iwerddon. Yn dilyn astudiaethau israddedig ym Mhrifysgol Queen’s, dilynodd Clíona astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Indiana, Bloomington, UDA, gan raddio gyda Gradd Doethuriaeth mewn Perfformio Telyn a Llenyddiaeth Cerddoriaeth, dan gyfarwyddyd y delynores enwog,  Susann McDonald.

Monika Stadler

Mae Monika Stadler yn un o delynorion unawdol mwyaf creadigol Ewrop. Astudiodd y delyn glasurol ym Mhrifysgol Gerddoriaeth Fienna gyda’r Athro Blovsky-Miller (diploma ag anrhydedd uchaf), a thelyn jazz gyda Deborah Henson-Conant yn UDA, lle’r enillodd sawl gwobr mewn cystadlaethau telyn jazz rhyngwladol. Wedi i’w gwaith gyda Cherddorfa Symffoni Fienna ddirwyn i ben, bu’n canolbwyntio’n llwyr ar berfformio fel unawdydd, ac mewn deuawd neu driawd, yn ei phrosiectau ei hun. Yn ychwanegol at ei gwaith fel perfformiwr ledled Ewrop, UDA, Canada, y Dwyrain Canol ac Asia, mae’n cynnal llawer o weithdai i ddysgu jazz a byrfyfyrio i delynorion. Ar hyn o bryd mae’n athro gwadd yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall yn Llundain, ac yn aelod o staff Prifysgol Cerdd a Drama Fienna yn Awstria. Rhyddhaodd 12 CD (ei chyfansoddiadau ei hun) yn ogystal â 10 llyfr cerdd. Am wybodaeth pellach gweler www.harp.at