Bydd gŵyl gerddoriaeth nodedig sy’n mynd yn rhithiol am y tro cyntaf yn ei hanes yn talu gwrogaeth i’r telynor byd-enwog Osian Ellis a fu farw yn gynharach eleni.
Bu’n rhaid canslo Gŵyl Delynau Cymru 2020 ar y funud olaf yn dilyn y pandemig Coronafeirws ond eleni mae’r trefnwyr yn benderfynol y bydd y sioe yn mynd yn ei blaen.
Mewn ymdrech arwrol o ddyfeisgarwch a gwybodaeth dechnegol yn eu pencadlys yng Nghaernarfon, llwyddodd Canolfan Gerdd William Mathias ffordd i symud rhaglen gyfan digwyddiadau’r ŵyl ar-lein.
Roeddent yn fwy penderfynol nag erioed y dylai gŵyl 2021 ar Fawrth 30 a 31 fynd yn ei blaen oherwydd ei bod yn cael ei llwyfannu i gofio am Osian Ellis, a fu farw ym mis Ionawr eleni, yn 92 oed.
Bydd yr ŵyl hefyd yn talu teyrnged i ddwy delynores enwog arall a fu farw yn ystod y 12 mis diwethaf, sef Ann Griffiths a Mair Jones.
Fel rheol mi fyddai’r digwyddiad yn cael ei lwyfannu’n fyw yn Galeri, Caernarfon, ond mae’r pandemig presennol a rheolau’r cyfnod clo yn gwneud hyn yn amhosibl.
Y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn cyrraedd cynulleidfa hyd yn oed yn ehangach eleni gyda thelynorion dawnus o Hong Kong, Patagonia ac Iwerddon yn ysu i gymryd rhan.
Bydd cyngerdd yr ŵyl yn cynnwys perfformiad o gyfansoddiad olaf Osian Ellis a ysgrifennwyd yn 2019, Lachrymae (Dagrau), gan ei gyfarwyddwr, Elinor Bennett.
Bydd ei chyn-ddisgybl yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, Elen Hydref, yn ymuno â hi i berfformio “Clymau Cytgerdd” ar gyfer dwy delyn gan Osian Ellis. Bydd Elen Hydref hefyd yn chwarae ‘Suite for Harp’ gan Benjamin Britten a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Osian Ellis.
Bydd telynores Gymreig arall sydd wedi ennill bri rhyngwladol, Sioned Williams, yn rhoi perfformiad o eiriau a cherddoriaeth fydd yn myfyrio ar yr ysbrydoliaeth a gafodd gan diwtoriaid gan gynnwys Osian, Mair Jones ac Ann Griffiths.
Mae’r wyl hefyd yn cynnwys recordiad o ddarlith a draddodwyd gan Osian Ellis yng Ngŵyl Delynau Cymru 2017 am y cyfnod a dreuliodd yn cydweithio â Benjamin Britten, a bydd sesiynau arbennig hefyd lle bydd ffrindiau, cydweithwyr a chyd-gerddorion yn talu teyrnged i Osian
Dywedodd Meinir Llwyd Roberts, cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias: “Canlyniad y symud ar-lein yw ein bod yn agor yr ŵyl i gyfranogwyr o bob cwr o’r byd gan alluogi telynorion o Gymru a gwledydd eraill i ymuno â’r sesiynau tiwtora ar-lein a fydd yn rhan allweddol o’r rhaglen.
“Rydyn ni eisoes wedi cael cais i gymryd rhan gan delynores yn Hong Kong ac mae yna ddisgybl ifanc arall o Gymru ym Mhatagonia, yn yr Ariannin, yn hynod awyddus i gymryd rhan hefyd.”
“Mae’r ŵyl yn cynnig cyfle i ddechreuwyr a thelynorion mwy datblygedig o bob oed ddysgu gan y goreuon”
Gallant wneud cais i gymryd rhan mewn gweithdai grŵp 90 munud a addysgir gan diwtoriaid proffesiynol arbennig a gafodd eu dysgu gan Osian Ellis ar ryw adeg yn eu gyrfa gerddorol, sef Elinor Bennett, ei chyn-ddisgybl Elen Hydref ac Ann Jones.
Bydd y tiwtor telyn, Ann Jones, a oedd yn un o ddisgyblion Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn gyn-brif delynores gyda Cherddorfa Radio RTE yn Nulyn, yn goresgyn cyfyngiadau teithio’r cyfnod clo trwy roi gwersi ar-lein yn uniongyrchol o’i chartref yn Iwerddon.
Roedd Elinor Bennett yn arbennig o awyddus i ŵyl 2021 fynd yn ei blaen fel y gallai hi ac eraill dalu eu teyrngedau personol i Osian Ellis a oedd yn Llywydd Anrhydeddus yr ŵyl.
Roedd yn gerddor hynod ddawnus o oed ifanc a thyfodd i fyny i fod yn delynor, athro, cyfansoddwr a threfnydd rhyngwladol rhagorol. Roedd yn brif delynor Cerddorfa Symffoni Llundain a chafodd yr anrhydedd o gael y cyfansoddwr clasurol Benjamin Britten yn ysgrifennu gweithiau yn arbennig ar ei gyfer.
Mae cenedlaethau o delynorion a gafodd eu hysbrydoli ganddo wedi mynd ymlaen i ddysgu myfyrwyr ifanc eu hunain.
Roedd Elinor yn un o’i ddisgyblion yn yr Academi Gerdd Frenhinol, ac ar ol gradio o’r Academi aeth ymlaen i fod yn unawdydd telyn amlwg, yn hyfforddwr meistr a sylfaenydd Coleg Telyn Cymru.
Mae hi wedi perfformio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Siambr Lloegr, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa’r Philharmonia, yn ogystal â rhoi datganiadau ar y radio a’r teledu.
Meddai: “Rwy’n gyffrous iawn bod yr ŵyl yn gallu cael ei llwyfannu a’r gobaith o allu cyrraedd cynulleidfa fyd-eang drwy’r dechnoleg ar-lein sy’n cael ei defnyddio eleni. Mae’r cymorth technegol a gefais gan staff CGWM wedi bod yn amhrisiadwy. Maen nhw wedi goresgyn pob math o rwystrau i wneud i hyn ddigwydd.”
Bydd Elinor yn cynnal dosbarth meistr ar-lein a bydd cyfle hefyd i delynorion o raddau 1-7 ymuno â dosbarthiadau Zoom ar-lein mewn grwpiau bach gydag un o diwtoriaid y delyn, Ann Jones, Elen Hydref ac Elinor ei hun.
Meddai: “Er mwyn gwneud pethau’n haws eleni rydym yn gofyn i gyfranogwyr y gweithdai anfon recordiadau o’r darnau y maent yn eu dysgu atom fel y gall y tiwtoriaid wrando ar eu perfformiadau ymlaen llaw. Bydd hyn yn sicrhau bod pob telynor yn cael y budd mwyaf o’r dosbarthiadau a bydd hefyd yn ddarpariaeth wrth gefn rhagorol, rhag ofn y ceir unrhyw broblemau cysylltu neu anawsterau eraill ar y diwrnod.”