Gŵyl Delynau Cymru

15-16 Ebrill 2025

Cwrs yr Ŵyl

TBC

Mae croeso i delynorion o bob oed a chyrhaeddiad i gofrestru ar gyfer cwrs un-dydd yr Ŵyl fydd yn gyfle gwych i dderbyn hyfforddiant unigol a grŵp gan diwtoriaid profiadol a chymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau amrywiol.

Dyddiad cau i gofrestru: TBC

Telynorion y Byd

Er mwyn dangos yr amrediad eang o  delynau, torrodd yr Ŵyl dir newydd trwy gynhyrchu cyfres o sgyrsiau arlein i gyrraedd  telynorion uchel iawn eu parch sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i’r delyn yn rhyngwladol ac i ddangos mathau gwahanol o delynau sydd yn cael eu canu mewn diwylliannau eraill. Mae datblygiadau technegol diweddar wedi ei gwneud yn bosibl cysylltu gyda phobl o bell  trwy zoom ac mae hyn yn fendith wrth rannu profiadau a syniadau gyda phobl sydd o’r un anian mewn gwledydd eraill . Cefais  y fraint a phleser mawr wrth gysylltu gyda thelynorion sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig fel perfformwyr, ysgolheigion ac athrawon telyn (ond sydd yn methu dod atom yn bersonol) a rhannu gwybodaeth am y delyn yn ei hamryfal ffurfiau – o  delynau cynnar yn Ewrop  i’r kora a thelynau  De America. Gan fod y  podlediadau hyn yn fenter newydd i’r Ŵyl Delynau, gobeithiwn y byddant yn ffynhonell  gwybodaerth i’r darllenwyr ac yn ysgogi diddordeb pellach mewn telynau a’u cerddoriaeth.