Ysgoloriaeth Noddi Tant
Annog plant a phobl ifanc i ddysgu canu’r delyn yw amcan bwysicaf Gŵyl Delynau Ryngwladol a gynhelir yng Nghaernarfon ym mis Ebrill. Bydd llawer o weithgareddau i hysbrydoli ieuenctid yn gynnwys cystadleuthau, cyngherddau, dosbarthiadau a gweithdai telyn gan delynorion enwog o bedwar ban byd. A hoffech chi helpu trwy gyfrannu swm o’ch dewis eich hun i sicrhau llwyddiant yr Ŵyl?
Tybed a hoffech chi helpu i sicrhau ysgoloriaethau i rai o’r telynorion a ddaw i’r brig yn y ddwy gystadleuaeth i blant ac ieuenctid a sicrhau y gallwn ariannu dosbarthiadau meistr gan rai o’r beirniaid sydd yn delynorion gwych?
Yn yr Ŵyl ddiwethaf yn 2018, bu cyfraniadau hael cyfeillion a dilynwyr y delyn yn bwysig iawn i’n galluogi i sicrhau rhaglen ddifyr, addysgiadol a ddenodd lawer o bobl ifanc at y delyn. Mae’r cyfnod yma o ansicrwydd a chynni economaidd yn gwneud talu am addysg cerddorol yn heriol, ac am y rheswm hwnnw, byddai cymorth ariannol gan gyfeillion yn rhoi hwb i blant i barhau â’u hastudiaethau gerddorol.
Os yw’n well gennych dalu â siec, llewnwch y ffurlfen yma a’i ddychwelyd â siec yn daladwy i ‘CGWM’ i: CGWM, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ.
Diolch i’r canlynol am Noddi Tant:
Debbie Jepson, Meinir Roberts, Elinor Bennett Wigley, Bob Lowe, Gwydion Davies, Catrin Morris Jones, Gwawr Ifan, Gerallt a Marian Wyn Jones, John a Miriam Pritchard, Eleri Darkins, Tudur Eames, Philippa Carling, Wyn Hughes, Geraint a Margaret Jones, Haf Llewelyn Jones, Iwan Llewelyn-Jones, Elizabeth & James Mann, Dafydd Wigley