Digwyddiadau

Dydd Mawrth, 26 Mawrth 2024

Billy ‘Harp Doctor’: Gwasanaethu Telynau

26+27 Mawrth 2024

Bydd Billy Hornby (The Harp Doctor) ar gael yn ystod yr Ŵyl i wasanaethu telynau. Dylech gysylltu yn uniongyrchol efo Billy i drefnu diwrnod ac amser. (07771 797877 / harpdoctor@btinternet.com)
(Mae’n angenrheidiol i archebu o flaen llaw).

Arddangosfa: Salvi Harp UK

26 Mawrth 2024, Prynhawn

Bydd Salvi Music London yn arddangos telynau lifer a thelynau pedal Salvi, tannau, cerddoriaeth a nwyddau eraill.  Os hoffai unrhyw un archebu ymlaen llaw, anfonwch e-bost allison@salvimusic.com. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld!

Darlith-ddatganiad: Edward Jones ‘Bardd y Brenin’ (1752 – 1824) gan Elinor Bennett

26 Mawrth 2024, 2:30pm, Stiwdio 2 Galeri

Tocynnau: £10, £9 (myfyrwyr / pobl hŷn / anabl), £5 disgyblion ysgol.

Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg gyda chyflwyniad Powerpoint.

Telynor, bardd, casglwr, trefnydd cerddoriaeth, hanesydd, athro, cyhoeddwr

Hanes y  bachgen bach o Landderfel, Gwynedd,  a esgynnodd  i fod yn delynor  i’r Brenin  Sior lV ar ddiwedd y 18fed ganrif geir yn y ddarlith hon mewn gair a chân. Roedd Edward Jones yr Henblas , Llandderfel, (1753-1824)  yn delynor, athro a chasglwr cerddoriaeth o fri a’i ddymuniad angerddol oedd y byddai  pobl Cymru ganrifoedd ar ei ol yn gwybod yr alawon traddodiadol.

Heb  waith manwl a gofalus  Edward Jones  yn casglu cerddoriaeth a barddoniaeth gan hen delynorion, beirdd a chantorion a glywai yn ystod ei blentyndod, –   ac yn eu cyhoeddi – mae’n  anhebyg iawn  y byddem ni heddiw yn canu llawer o’r  hoff alawon fel Llwyn Onn, Ar hyd y Nos, Cainc Dafydd Broffwyd, gan y byddent wedi mynd yn angof ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Ddau gan mlynedd yn ôl, ym mis Medi 1824, bu Edward Jones , Bardd y Brenin, farw mewn tlodi ac unigrwydd yn ei lety yn Llundain. Bwriad y ddarlith/ddatganiad  hon yw cofio un o gymwynaswyr mwyaf cerddoriaeth Cymru o’r 18fed ganrif, a dathlu’r ffaith  iddo sicrhau fod plant a phobl ifanc Cymru hyd ein cyfnod ni yn  gwybod ein halawon traddodiadol. Buasai ein bywyd cenedlaethol yn dlawd iawn  heb hen benillion, dawnsiau a chaneuon traddodiadol.

Mewn cyd-ddigwyddiad,  roedd  y cyfnod hwn yn bwysig iawn hefyd yn natblygiad y delyn yn Ewrop. Cewch wybod  pam yn y ddarlith hon!

Ysgoloriaeth Nansi Richards

26 Mawrth 2024, 6:00pm, Stiwdio 2

Dydd Mercher, 27 Mawrth 2024

Billy ‘Harp Doctor’ Servicing

26+27 Mawrth 2024

Bydd Billy Hornby (The Harp Doctor) ar gael yn ystod yr Ŵyl i wasanaethu telynau. Dylech gysylltu yn uniongyrchol efo Billy i drefnu diwrnod ac amser. (07771 797877 / harpdoctor@btinternet.com)
(Mae’n angenrheidiol i archebu o flaen llaw).

Cwrs yr Ŵyl

27 Mawrth 2024

Arddangosfa: Salvi Harp UK

27 Mawrth 2024, O 9:30am ymlaen

Bydd Salvi Music London yn arddangos telynau lifer a thelynau pedal Salvi, tannau, cerddoriaeth a nwyddau eraill.  Os hoffai unrhyw un archebu ymlaen llaw, anfonwch e-bost allison@salvimusic.com. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld!

Cyngerdd yr Ŵyl

27 Mawrth 2024, 7:30pm, Theatr Galeri

Tocynnau: £16, £14 (myfyrwyr / pobl hŷn / anabl), £6 disgyblion ysgol.

O Gymru i Golombia – O’r clasurol i jazz i gerddoriaeth America-Ladin yng nghwmni Alis Huws, Amanda Whiting a Diego Laverde Rojas.

Dewch i wrando ar gerddoriaeth amrywiol ar y delyn mewn cyngerdd sy’n cynnwys cerddoriaeth glasurol, jazz ac America-Ladin.

Yn unawdydd, cerddor siambr a cherddorfaol profiadol, Alis Huws yw’r Delynores Frenhinol Swyddogol bresennol. Mae hi wedi rhoi datganiadau unawdol ar hyd a lled y DU, Siapan, UDA, Ewrop a’r Dwyrain Canol ac wedi perfformio gyda Cherddorfa Philharmonic Llundain, Cerddorfa Siambr Llundain a Sinfonia Cymru.

O berfformio mewn Gwyliau ledled y byd, i addysgu mewn Conservatoires ledled y wlad, mae’r delynores Gymreig Amanda Whiting wedi sefydlu ei hun yn gyflym iawn fel rhan hanfodol o fyd jazz y DU. Gyda’i hyfforddiant clasurol, mae hi wedi canfod sain unigryw ei hun gan ddilyn y llwybrau a luniwyd gan Ashby a Coltrane. a jazz wedi dod yn ei hangerdd.

Wedi’i eni yn Bogotá, Colombia a bellach yn byw yn Llundain, mae Diego Laverde Rojas yn arbenigo mewn cerddoriaeth draddodiadol gwastadeddau Colombia-Venezuelan, gan gynnwys rhythmau America-Ladin. Yn ogystal â pherfformio yn unawdol ac mewn ensembles mae hefyd yn arwain gweithdai mewn Gwyliau Cerdd led led y DU.