Cwrs yr Ŵyl

16 Ebrill 2025

Mae croeso i delynorion o bob oed a chyrhaeddiad i gofrestru ar gyfer cwrs un-dydd yr Ŵyl fydd yn gyfle gwych i dderbyn hyfforddiant unigol a grwp gan diwtoriaid profiadol a chymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau amrywiol.

Dosbarth Oedolion Cwrs Telyn Gŵyl Delynau Cymru 2025

Mae Dosbarth i oedolion ar gwrs un-dydd yr Wyl Delynau ac yn addas i bob lefel, o ddechreuwyr i rai mwy profiadol. Bydd y dosbarth yn ddwyieithog ac mae’r ffi cofrestru yn cynnwys tocyn i Gyngerdd yr Ŵyl ar y nos Fercher.

Amserlen y Cwrs

8.45am – 9.15am: Cyrraedd a Chofrestru
9.30am – 12.30pm: Dosbarthiadau
12.30pm – 1.15pm: Cinio
1.15pm – 2.15pm: Gweithdy gyda Gwenan Gibbard / Dosbarthiadau
2.30pm – 3.30pm: Gweithdy gyda Gwenan Gibbard / Dosbarthiadau
4:00pm: Ymarfer ar y galerïau
5:00-5:30pm: Telynorion Lu ar galerïau Galeri 
7:30pm: Cyngerdd yr Ŵyl

Gall yr amserlen newid ychydig.
Bydd angen i rieni / gofalwyr fod yn gyfrifol am eu plant o 5pm ymlaen.

Tiwtoriaid y Cwrs

Elinor Bennett

Tiwtor Cwrs

Astudiodd Elinor Bennett gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, ar ô graddio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n fuddugol lawer gwaith yn Eisteddfod Gnedlaethol Cymru a hi oedd y delynores gyntaf i lwyddo yn y Diploma Datganiad gan yr Aademi Gerdd. Bu’n chwarae gyda Cherddorfa Symffoni Llundain, y Philharmonia a cherddorfeydd mawr eraill a grwpiau siambr.  Recordiodd 15 casgliad o gerddoriaeth telyn yn amrywio o gerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru a  cherddoriaeth siambr. Rhoddodd berfformiadau cyntaf o lawer gwaith newydd, gan cyfansoddwyr megis Malcolm Williamson, John Metcalf ac Alun Hoddinott, cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor am flynyddoedd. Bu’n Athrawes Ymweliadol y Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysol Cymru.  Mae’n ymddiriedolwr i Ganolfan Gerdd William Mathias ac yn ymddeol o fod yn Cyfarwyddwraig Artistig Gwyl Delynau Rhyngwladol Cymru yn 2023.

Dylan Cernyw

Tiwtor Cwrs

Telynor, Perfformiwr ac athro telyn llawrydd yw Dylan Cernyw sydd wedi perfformio yn Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, Prague, Tsieina a’r Swistir.

Mae’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd ar Ŵyl Gerdd Dant ers 1995. Ymdangosodd fel gŵr gwadd yng Ngwyl o Fil o leisiau yn Llundain ac mae wedi perfformio gydag artistiaid megis Bryn Terfel, Katherine Jenkins, John Owen Jones, Shân Cothi, Rhys Meirion, Rhydian Roberts dim ond in enwi rhai.

Mae wedi cynhyrchu 10 albwm i gyd, 3 unigol, 4 albwm Piantel ac 3 albwm gyda delynores Gwenan Gibbard ar gyfer Sunrise Music gafodd ei rhyddhau yn Hong Kong. Ar wahân i rhain, mae Dylan wedi ymddangos ar nifer fawr o gryno ddisgiau fel cyfeilydd.

Yn ogystal ac unawdydd a chyfeilydd mae’n cyd weithio gyda rhain o’n artisitiaid mwyaf blaenllaw. Mae’n un hanner o’r ddeuawd gerddorol “Piantel” sydd wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd ers dros 20 mlynedd, rhan or ddeuawd Telyn Jazz Arpe Dolce, Pedwarawd telyn Telyn4 ac yn perfformio mewn cabaret act Two Blondes and a Harp. Yn 2024 ffurfwyd grwp newydd dan yr enw Tresillo sydd yn cynnwys y soprano Sioned Terry ar Gitarydd Wyn Pearson, Mae’n hoff iawn o gydweithio mewn sawl arddull ac rhai oi berfformiadau mwyaf diweddar oedd gyda’r grwp Lo-Fi Jones

Yn ogystal a perfformio a thrafeilio mae’n diwtor Telyn a Piano gyda Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych ac yn arweinydd Ensemble Telyn y gwasanaeth. Mae’n falch o fod wedi gallu sefydlu’r prosiect 4 blynedd yma ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd y sîr i dderbyn hyfforddiant telyn am flwyddyn ac am ddim I greu diddordeb ymysg disgyblion ifanc y sîr, ac hefyd yr arfer o gyd chwarae.

Glain Dafydd

Tiwtor Cwrs

Mae gyrfa Glain Dafydd yn cynnwys llwyddiannau mewn cystadlaethau megis y 4ème Rencontres Internationales de la Harpe en Île-de-France, Ysgoloriaeth Bryn Terfel a ‘Gwobr Dinas Szeged’ yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Szeged, Hwngari. Cyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadlaethau’r BBC Young Musician a’r Royal Over-Seas League, a daeth yn ail yng nghystadleuaeth ieuenctid Gŵyl Delynau Ryngwladol Mosco. Astudiodd yn yr École Normale de Musique de Paris ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Fel unawdydd a chwaraewraig siambr a cherddorfaol, mae Glain wedi perfformio mewn neuaddau megis Wigmore Hall, Royal Festival Hall, London Coliseum, Cadeirlan Washington, Thursford Christmas Spectacular, Llysgenhadaeth Prydeinig ym Mharis a Bridgewater Hall ym Manceinion. Mae hi hefyd wedi teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig a’r Unol Dalaethau, ac wedi perfformio mewn gwyliau megis Harpissima, Suoni d’Arpa yn yr Eidal ac yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Ar ôl perfformio yn L’Instrumentarium Harpes ym Mharis ac ym Moret-sur-Loing y llynedd, bydd yn dychwelyd yno ym Mehefin i berfformio gyda Fiona Sweeney, ei phartner deuawd ffliwt a thelyn. Mae Glain yn artist gyda Live Music Now ac mae hi’n perfformio mewn ysbytai, cartrefi henoed ac ysgolion anghenion addysgol arbennig. Mae hi’n dysgu yn Queen’s College London ac yn St George’s College Weybridge, ac mae hi’n gyd-gyfarwyddwraig Hampstead Harp Centre.

Gwenan Gibbard

Tiwtor Cwrs
Mae Gwenan yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru. Mae wedi perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a’n alawon traddodiadol. Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac mae ei thrydydd albwm ar label Sain, Cerdd Dannau, yn gasgliad sy’n darganfod hen drysorau ac yn torri tir newydd ym maes cerdd dant. Mae ei halbym diweddaraf, ‘Hen Ganeuon Newydd’, yn canolbwyntio ar ganeuon gwerin ei hardal genedigol, Llŷn ac Eifionydd, ac yn cyd-fynd â’i hymchwil doethurol diweddar yn y maes hwnnw.

Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor a chwblhau gradd feistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth ymlaen i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yna dychwelodd i’w hardal genedigol ym Mhwllheli. Mae’n gweithio gyda Cwmni Recordio Sain, yn arwain Côr yr Heli ac mae hefyd yn perfformio’n helaeth fel artist unigol a gyda’r grŵp gwerin ‘Pedair’.

Catrin Morris Jones

Tiwtor Cwrs

Astudiodd Catrin yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall ac yna’r Academy Gerdd Frenhinol, Llundain ble enillodd Wobr Renata Scheffel-Stein i’r Delyn. Mae bellach yn Gydymaith (Associate) yr Academi. Yn wreiddiol o Fangor, ac ar ôl pum mlynedd ar hugain o fyw a gweithio yn Llundain, mae Catrin bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli.

Mae dysgu’r delyn i blant ac oedolion wedi bod yn ran bwysig o yrfa Catrin ac mae hi wedi dysgu mewn llawer o ysgolion dros y blynyddoedd gan gynnwys Ysgol Gymraeg Llundain ble roedd ei phlant yn mynychu. Mae bellach yn diwtor yng Nghanolfa Gerdd William Mathias ac i Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Bu’n chwarae mewn amryw o sioeau cerdd yn y ’West End’ yn Llundain, gan gynnwys: Oliver!, Phantom of the Opera, The King and I, Notré Dame de Paris, The Producers, My Fair Lady, Napoleon, The Secret Garden a South Pacific (National Theatr). Mae hefyd wedi perfformio gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw gan gynnwys: y BBC Philharmonic Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Philharmonia, Royal Philharmonic a’r Royal Philharmonic Concert Orchestras, cerddorfa’r Hallé, Royal Scottish National Orchestra, Ensemble 10/10, Trondheim Symphony Orchestra, Schleswig-Holstein Festival Orchestra, Royal Opera House Orchestra, Glyndebourne Touring Orchestra, English Touring Opera, Garsington Opera Orchestra, Opera São Carlos, Lisbon, Portugal, London City Ballet, Moscow City Ballet a Northern Ballet Company.

Cofrestru

Pris:
£38 i rai o dan 18
£48 i oedolion
(Mae hyn yn cynwys tocyn i’r gyngerdd).

Dyddiad cau i gofrestru: 30 Mawrth 2025