Cerddoriaeth Hwyr
Cerdd Hwyr: Côr Dre
5 Ebrill 2023, 9:30pm
Erbyn gwanwyn 2013 ymunodd Siân Wheway fel arweinydd a hi yw’r Cyfarwyddwr Cerdd presennol.
Yn ystod y ddegawd diwethaf, cafwyd sawl llwyddiant, gan gynnwys gwobrau corawl mewn eisteddodau lleol a chenedlaethol, Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Derry 2015, cyrraedd rownd gyderfynol Cor Cymru 2017, a’r brif wobr yng nghystadleuaeth Cor Eisteddfodau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019. Ar wahan i gystadlu, mae’r côr wedi rhyddhau CD, perfformio yn“ Te yn y Grug” efo Al Lewis a “Tylwyth” gan Dafydd James, wedi ymddangos yn rheolaidd ar S4C ac wedi recordio lleisiau cefndir i John Owen Jones, Dafydd Iwan a Dewi “Pws” Morris.
Mae’r côr yn parhau i fod yr un mor brysur ag erioed, yn ymarfer yn wythnosol yng nghapel Caersalem, Caernarfon a bellach, wedi tyfu i 70 o aelodau!
Cyswllt Ymaelodi : Cor_dre@hotmail.co.uk Ffon: 07818 424708
Cerdd Hwyr: Ben Creighton Griffiths
Telyn Electro-Acoustic Jazz
Noddir gan Telynau Vining Harps
Mae Ben Creighton Griffiths yn delynor jazz a chlasurol, cyfansoddwr ac arweinydd band sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Gwnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn 1er Concours International de Harpe yn 2004 yn Nantes, Ffrainc ble, yn 7 oed, daeth yn ail yn yr adran dan 18. Yn 2006 enillodd Gystadleuaeth Iau Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru cyn mynd ymlaen i ennill Cystadleuaeth Iau Lily Laskine 2008 ym Mharis, gan ennill telyn gyngerdd yn y broses. Ers hynny, mae wedi ennill enw da am berfformio gyda theithiau i UDA, Canada, Brasil, Ffrainc y Caribî, India, Hong Kong, ac ar draws Ewrop. Yn ogystal â’i waith jazz unigol mae’n perfformio gyda cherddorfeydd Symffoni a Siambr ac mae’n un o sylfaenwyr y band electro-fusion Chube a’r Transatlantic Hot Club – ‘clwb poeth’ a band swing gyda Ben ar y delyn ac Adrien Chevalier ar y ffidil www.bjcg.co.uk
Cerdd Hwyr: Cerys Hafana – Telyn Deires a llais
7 Ebrill 2023, 9:00pm
Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, gan gymryd ysbrydoliaeth o ddeunydd archifol a phrosesu electronig.
Rhyddhawyd Edyf, ei hail albwm, yn 2022, a chafodd yr albwm ei ddewis fel un o ddeg albwm traddodiadol gorau’r flwyddyn gan y Guardian. Ym mis Ionawr 2023, cafodd Cerys hefyd ei chynnwys ar raglen ‘Uchafbwyntiau 2022’ Cerys Matthews ar BBC 6 Music.
Mae Edyf wedi ei seilio yn bennaf ar ddeunydd o archif ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys darnau o alawon salm, emynau sy’n sôn am ddiwedd y byd a myfyrdodau athronyddol ar y cysyniad o dragwyddoldeb, yng nghyd ag ambell gyfansoddiad gwreiddiol. Mae’r albwm yn cael ei pherfformio yn bennaf y delyn deires, ond hefyd yn cynnwys Sam Robinson ar y bodhrán, Jordan Price Williams ar y bas dwbl a’r soddgrwth, Elaine Turnbull ar yr althorn, a sŵn botel dwr yn cael ei tharo.
Cyngerdd Swper
9 Ebrill 2023, 7:00pm Yr Hen Lys, Caernarfon
Cyngerdd am 9:00pm
Parker Ramsay (Telyn)
The Street by Nico Muhly (b.1981) & Alice Goodman (b.1958)
Mae Parker Ramsay yn berfformiwr, awdur ac yn siaradwr cyhoeddus. Yr un mor gartrefol ar delynau modern a hynafol , ac yn angerddol am berfformio gweithiau newydd a rhai llai cyfarwydd er mwyn cyflwyno’r delyn i gynulleidfaoedd newydd.
Cydweithiodd â Marcos Balter, Nico Muhly a Josh Levine, ar gomisiynau a pherfformiadau cyntaf yn Theatr Miller ym Mhrifysgol Columbia, Casgliad Phillips, Gŵyl Spoleto UDA, IRCAM, y Princeton Sound Kitchen, King’s College Caergrawnt a Canada Council ar gyfer y Celfyddydau. Mae ei brosiectau nesaf yn cynnwys cydweithio â Sarah Kirkland Snider, Jared Miller, Aida Shirazi ac inti-figgis vizueta.
Ochr yn ochr ag Arnie Tanimoto sy’n chwarae’r Viola da Gamba, mae Parker yn gyd-gyfarwyddwr A Golden Wire, ensemble offerynnau cyfnod sydd wedi’i leoli yn Efrog Newydd. Mae wedi cyflwyno sgyrsiau, perfformiadau a darlithoedd ar offerynnau cynnar yng Nghasgliad Smithsonian a’r Amgueddfa Gelf Metropolitan, a chyhoeddodd waith yn VAN Magazine, Early Music America Magazine, y Washington Post a’r New York Times.
Wedi’i fagu yn Tennessee, dechreuodd Parker astudio’r delyn gyda’i fam, Carol McClure. Mae ganddo raddau o Gaergrawnt, Oberlin a Juilliard.
Parti Ffarwel
11 Ebrill 2023, 9:30pm