Digwyddiadau

Dydd Mawrth, 15 Ebrill 2025

Billy ‘Harp Doctor’: Gwasanaethu Telynau

15 Ebrill 2025

Bydd Billy Hornby (The Harp Doctor) ar gael yn ystod yr Ŵyl i wasanaethu telynau. Dylech gysylltu yn uniongyrchol efo Billy i drefnu diwrnod ac amser. (07771 797877 / harpdoctor@btinternet.com)
(Mae’n angenrheidiol i archebu o flaen llaw)

Arddangosfa: Salvi Harp UK

15 Ebrill 2025, Prynhawn

Bydd Salvi Music London yn arddangos telynau lifer a thelynau pedal Salvi, tannau, cerddoriaeth a nwyddau eraill.  Os hoffai unrhyw un archebu ymlaen llaw, anfonwch e-bost allison@salvimusic.com. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld!

Camau Cerdd ar y Delyn

15 Ebrill 2025, 1:00 – 1:40pm, Stiwdio 2 Galeri Caernarfon

I blant 2-5mlwydd oed gyda oedolyn.
£5 y plentyn (Disgownt o 20% i frodyr a chwiorydd)

Teimlo’r Tannau

15 Ebrill 2025, 2:00 – 2:45pm, Stiwdio 2 Galeri Caernarfon

I blant oed ysgol 6+ sydd â diddordeb yn y delyn ond heb dderbyn gwersi telyn hyd yma. Gyda Angharad Wyn Jones & Catrin Morris Jones.
Am ddim, ond rhaid cofrestru o flaen llaw.

Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Nansi Richards

15 Ebrill 2025, 3:30pm, Stiwdio 2

A £1,500 scholarship is offered, by the Nansi Richards Trust, to a harpists under the age of 25 living in or born in Wales. Each candidate is required to present a programme of contrasting works up to 20 minutes in length, to includes a Welsh melody or an original work by a composer born in Wales.

No admission charge (collection for the Nansi Richards Trust at the end)

For more information contact ysgoloriaethnansirichards@yahoo.com  

Dydd Mercher, 16 Ebrill 2025

Billy ‘Harp Doctor’ Gwasanaethu Telynau

16 Ebrill 2025

Bydd Billy Hornby (The Harp Doctor) ar gael yn ystod yr Ŵyl i wasanaethu telynau. Dylech gysylltu yn uniongyrchol efo Billy i drefnu diwrnod ac amser. (07771 797877 / harpdoctor@btinternet.com)
(Mae’n angenrheidiol i archebu o flaen llaw)

Arddangosfa: Salvi Harp UK

16 Ebrill 2025, O 9:30am ymlaen

Salvi Music London will be exhibiting Salvi lever and pedal harps, strings, sheet music and accessories. If anyone would like to order in advance, please email allison@salvimusic.com. We look forward to seeing you all!

Cwrs yr Ŵyl

16 Ebrill 2025

Mae croeso i delynorion o bob oed a chyrhaeddiad i gofrestru ar gyfer cwrs un-dydd yr Ŵyl fydd yn gyfle gwych i dderbyn hyfforddiant unigol a grwp gan diwtoriaid profiadol a chymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau amrywiol.

Galerïau Galeri

16 Ebrill 2025, 5pm, Cyntedd Galeri, Am ddim

Perfformiad ar galerïau y Galeri gan gyfanogwyr cwrs yr Ŵyl Delynau.

Hefyd i gynnwys perfformiad gan Hebe Kan:
Rhaglen:
J.S. Bach – Lute Suite in C minor, BWV 997: Prelude, Sarabande, Gigue
Pierre Sancan – Thème et Variations
Jacques de La Presle – Le Jardin Mouillé
Carlos Salzedo – Ballade, Op. 28

Enillodd Hebe Kan Yuet, telynores 19 oed o Hong Kong, Gystadleuaeth yr United Kingdom Harp Association yn 2024. Pan yn 16 oed, enillodd ei Diploma FTCL a chael anrhydedd yn ei diploma LTCL pan oedd yn 11 oed. Mae Hebe wedi ennill sawl prif wobr ryngwladol, gan gynnwys y Wobr 1af yng Nghystadleuaeth Artist Telyn Ifanc 2018 yn Ohio a’r 3ydd wobr yng Nghystadleuaeth Gerddorol Ryngwladol Osaka. Mae hi wedi perfformio ledled y byd, gan gynnwys yng Nghanolfan Celfyddydau Seoul, Korea a Chystadleuaeth Telyn Ryngwladol yr Unol Daleithiau. Ar hyn o bryd mae Hebe yn fyfyriwr ail-flwyddyn yng Ngholeg Prifysgol Trinity, Caergrawnt, ac hi yw prif delynores Cerddorfa Prifysgol Caergrawnt.

Cyngerdd yr Ŵyl

16 Ebrill 2025, 7:30pm, Theatr Galeri

Tocynnau: £16, £14 (Myfyrwyr / pobl hŷn / anabl), £6 disgyblion ysgol.

Dathlu cerddoriaeth o Gymru, Ffrainc ac ymhellach!

Glain Dafydd
Torre Bermeja gan Albeniz
Suite No.1 BWV 996 (Allemande, Sarabande & Bourrée) gan J.S.Bach
Jeu gan N.Hakim 
Nocturne gan Grieg (tr. Glain Dafydd) 
La Danse du Moujik (4ydd Suite) gan Tournier 

Gwenan Gibbard

TRIO HAYDÉE: Marielou Jacquard (mezzo-soprano), Anastasie Lefebvre de Rieux (ffliwt) Constance Luzzati (telyn)

Louise-Zoé Gouirand-Gentil – Nuit d’étoiles (Night of Stars) 
Grace Williams – Songs of Sleep
Pauline Viardot  –  Roussignolet (Little Nightingale) 
Clémence de Grandval – Villanelle 
Lili Boulanger – Reflets  (Reflection)
Marguerite Roesgen-Champion – Pantoum 

Glain Dafydd

Gwenan Gibbard

Trio Haydée

Marielou Jacquard (mezzo-soprano), Anastasie Lefebvre de Rieux (ffliwt) Constance Luzzati (telyn)